Map topograffig o Ddwyrain Ewrop gyda rhanbarth Polesia mewn lliw gwyrdd tywyll. | |
Math | tirlun |
---|---|
Daearyddiaeth | |
Ardal warchodol | Polesie National Park |
Rhan o'r canlynol | Polesian Lowland |
Gwlad | Belarws Gwlad Pwyl Rwsia Wcráin |
Cyfesurynnau | 52°N 27°E |
Rhanbarth hanesyddol a ffisiograffig yn Nwyrain Ewrop yw Polesia neu Polisia (Belarwseg: Палессе Paliessie, Wcreineg: Полісся Polissia, Pwyleg: Polesie, Rwseg: Полесье Polesye) sydd yn ymestyn o ddwyrain canolbarth Gwlad Pwyl yn y gorllewin, ar hyd y ffin rhwng Belarws ac Wcráin, hyd at dde-orllewin Ffederasiwn Rwsia. Iseldir coediog eang ydyw sydd yn cynnwys corsydd a thywotiroedd, ac sydd yn rhan o Wastatir Mawr Ewrop.
Yn Polesia lleolir yr ardaloedd gweinyddol canlynol: foifodiaeth Lublin yng Ngwlad Pwyl; oblastau Brest a Gomel a rhannau deheuol Minsk a Mogilev ym Melarws; oblastau Volyn, Rivne, a Zhytomyr a rhannau gogleddol Kyiv a Chernihiv yn Wcráin; ac Oblast Bryansk yn Rwsia. Mae'r rhanbarth yn ffinio ag Ucheldiroedd Belarws i'r gogledd, Podlasia i'r gogledd-orllewin, Pwyl Fechan i'r gorllewin, Halychyna i'r de-orllewin, rhanbarth Wcreinaidd y Dnieper i'r de, Sloboda Wcráin i'r de-ddwyrain, ac ucheldiroedd Smolensk a Chanolbarth Rwsia i'r dwyrain.