Math | ardal hanesyddol |
---|---|
Daearyddiaeth | |
Gwlad | yr Almaen, Gwlad Pwyl |
Arwynebedd | 38,401 km² |
Gerllaw | Y Môr Baltig |
Cyfesurynnau | 54.2944°N 18.1531°E |
Rhanbarth hanesyddol ar lan ddeheuol y Môr Baltig yng Nghanolbarth Ewrop yw Pomerania (Pwyleg: Pomorze; Almaeneg: Pommern), wedi'i rhannu rhwng Gwlad Pwyl a'r Almaen. Lleolir y rhan ganolog a dwyreiniol yng Ngwlad Pwyl, tra bod y rhan orllewinol yn perthyn i daleithiau Mecklenburg-Vorpommern a Brandenburg yn yr Almaen. Mae gan y rhanbarth hanes gwleidyddol a demograffig cymhleth mewn ardal sy'n gartref i sawl diwylliant gwahanol.[1]
Mae gan Pomerania ddwysedd poblogaeth cymharol isel. Ei dinasoedd mwyaf yw Gdańsk a Szczecin, ill dau yng Ngwlad Pwyl. Y tu allan i'w hardaloedd dinesig, fe'i nodweddir gan dir amaeth, yn frith o lynnoedd, coedwigoedd a threfi bach niferus. Yn y gorllewin y mae amryw ynysoedd, a'r fwyaf ohonynt yw Rügen, ynys fwyaf yr Almaen; Usedom/Uznam a rennir rhwng yr Almaen a Gwlad Pwyl, a Wolin, yr ynys fwyaf yng Ngwlad Pwyl.