![]() | |
Math | tref, plwyf sifil ![]() |
---|---|
Poblogaeth | 11,226, 10,748 ![]() |
Daearyddiaeth | |
Sir | Cernyw (Sir seremonïol) |
Gwlad | ![]() ![]() |
Arwynebedd | 9.41 km² ![]() |
Cyfesurynnau | 50.21°N 5.48°W ![]() |
Cod SYG | E04011556 ![]() |
Cod OS | SW518403 ![]() |
Cod post | TR26 ![]() |
![]() | |
Tref glan-y-môr, plwyf sifil a phorthladd yng Nghernyw, De-orllewin Lloegr, yw Porth Ia (Saesneg: St Ives;[1] Cernyweg: Porth Ia) wedi ei lleoli ar arfordir y Môr Celtaidd yng ngorllewin Cernyw.
Yng Nghyfrifiad 2011 roedd gan y plwyf sifil boblogaeth o 11,435.[2]
Roedd ar un adeg yn dref bysgota, ond wedi'r cwymp yn y diwydiant mae heddiw yn dibynnu ar dwristiaeth. Mae'r dref yn enwog am ei artistiaid, ac ym 1993 agorwyd cangen o Oriel y Tate, Tate St. Ives yng nghanol y dref. Yn 2007 cafodd ei henwi fel tref glan-y-môr gorau Prydain ym mhapur newydd The Guardian.