![]() | |
Math | pentref ![]() |
---|---|
Daearyddiaeth | |
Sir | Cylch-y-Garn ![]() |
Gwlad | ![]() |
Gerllaw | Porth Swtan ![]() |
Cyfesurynnau | 53.371572°N 4.553572°W ![]() |
AS/au y DU | Llinos Medi (Plaid Cymru) |
![]() | |
Pentrefan yng nghymuned Cylch-y-Garn, Ynys Môn, yw Porth Swtan ( ynganiad ) (Saesneg: Church Bay). Saif ar arfordir gogledd-orllewinol yr ynys tua milltir a hanner i'r gogledd-orllewin o bentref Llanfaethlu. Mae glannau'r bae yn greigiog ond ceir traeth tywodlyd hefyd sy'n boblogaidd gan ymwelwyr.
Enwir Porth Swtan ar ôl afon Swtan, ffrwd fechan sy'n cyrraedd y môr tu isaf i Borth Swtan. Dichon mai enw'r pysgodyn 'swtan' (gwyniad môr) a geir yn yr enw, er bod yr hynafiaethydd John Leland yn ei Itinerary in Wales (1536-39) yn dweud mai "enw cawr" ydyw.[1]
Ceir dyrniad o dai ger y traeth. Mae Llwybr Arfordirol Ynys Môn yn mynd ar hyd pen y clogwynni. Mae bwthyn yma o'r enw Swtan sy'n awr yn amgueddfa werin; dywedir mai hwn yw'r bwthyn to gwellt olaf ar yr ynys.[2]Enillodd y bwthyn Gwobr Cymru Gwledig gan Ymgyrch Diogelu Cymru Wledig (YDCW) yn 2003. Mae yna hefyd adfeilion melin wynt, Melin Drylliau, a gofnodwyd gyntaf yn 1840 ag eu ddinistriwyd mewn tân yn 1914.[3] Cafodd ei adeiladu a'i berchen gan y teulu Williams oedd yn berchen ar nifer o felinau ar draws yr ynys.
Gellir cyrraedd Porth Swtan o gyfeiriad Llanfaethlu neu o bentref Rhydwyn, i'r dwyrain, ar ôl dilyn y briffordd A5025 o'r Fali neu o gyfeiriad Amlwch. Ceir maes parcio ger y traeth. Mae pentref Llanrhyddlad tua 2 filltir i fwrdd.
Mae yna gaffi o'r enw Wavecrest Cafe ym Mhorth Swtan yn ogystal â bwyty o'r enw Lobster Pot.
Mae gan y traeth 'ansawdd dŵr gwych' (5 seren). Mae'r traeth yn agored i ychydig o weithgareddau fel golff, pysgota, nofio/ymdrochi a hwylio