Porthgadw[1]diwylliannol (Saesneg: Cultural gatekeeping) yw'r weithred o reoli, ac fel arfer cyfyngu, mynediad i grŵp arall o bobol ar sail arferion neu gefndir diwylliannol.[2]
Mae’n gallu cael ei weld fel ffordd o amddiffyn diwylliant rhag pobl o'r tu allan, ond hefyd ei weld hefyd fel ffordd o barhau ag anghydraddoldeb a gwahaniaethu. [3]
Nid yw porthgadw diwylliannol bob amser yn fwriadol. Yn aml mae'n gallu bod yn ganlyniad i ragfarn anymwybodol neu fwriadau da. Er enghraifft - cydymffurfio â normau neu safonau mae un grŵp yn eu hystyried yn arfer cyffredin neu orau.
Gall porthgadw diwylliannol fod ar sawl ffurf, megis:
Gwadu mynediad i bobl i sefydliadau diwylliannol
Ei gwneud yn anodd i bobl ddysgu am arferion diwylliannol neu gymryd rhan
Defnyddio iaith neu symbolau sy'n unigryw i ddiwylliant penodol
Er enghraifft mae’r modd mae diwydiant ffilmiau Hollywood yn seilio eu cynnyrch i apelio i’r gynulleidfa ehangach posibl ond fel canlyniad yn peidio cynnwys amrywiaeth ddiwylliannol neu ethnig wedi cael ei alw’n borthgadw.[4]
Mae’r term hefyd wedi cael ei ddefnyddio i ddisgrifio sut mae merched yn gallu cael eu heithrio o gyfleoedd ym meysydd fel gwyddoniaeth neu dechnoleg.[5]
Mae’r arferiad o ddisgwyl neu fynnu fersiwn neu safon iaith benodol hefyd yn gallu cael ei gyfrif fel porthgadw diwylliannol. (Gweler: Purdeb ieithyddol)[6]
↑Erigha, Maryann: Racial Valuation: Cultural Gatekeepers, Race, Risk, and Institutional Expectations of Success and Failure, 2020. https://doi.org/10.1093/socpro/spaa006