Defnyddir y gair Porthmon am rywun sy'n gyrru anifeiliaid dros bellter hir i'w gwerthu. Roedd y porthmyn yn elfen bwysig iawn yn economi Cymru yn y 18g yn arbennig. Gwartheg oedd yn cael eu gyrru gan amlaf, ond byddai defaid a hyd yn oed gwyddau yn cael eu gyrru.
Ceir cofnod o borthmyn yn gyrru gwartheg o Gymru i Loegr i'w gwerthu cyn gynhared a'r 14g, ond cyrhaeddodd y fasnach yma ei huchafbwynt yn ystod y 18g. Llundain oedd y gyrchfan fwyaf poblogaidd i'r porthmyn Cymreig, a datblygodd Smithfield ar gyrion y ddinas i fod y farchnad anifeiliaid fwyaf yn y byd.
Byddai'r porthmyn yn cario symiau sylweddol o arian ar eu taith yn ôl wedi gwerthu'r anifeiliad, ac yn aml roedd pobl eraill oedd angen gyrru arian i rywle arall yn eu roi i'r porthmyn i'w trosglwyddo. Roedd perygl oddi wrth ladron pen-ffordd, a bu hyn yn symbyliad i ddatblygiad nifer i fanciau. Sefydlwyd Banc yr Eidion Du yn Llanymddyfri gan borthmon o'r enw David Jones yn 1799. Parhaodd y banc yma nes i Fanc Lloyds ei brynu yn 1909. Sefydlwyd Banc y Ddafad Ddu gan borthmyn defaid Tregaron ac Aberystwyth yn gynnar yn y 19g.
Diflannodd y porthmyn yn raddol yn ystod y 19g, oherwydd datblygiad y rheilffyrdd a rhesymau eraill. Yr unig olion bellach yw'r ffyrdd porthmyn, yn enwedig ar dir uchel mewn gwahanol rannau o Gymru.