Math | prif ardal, siroedd cadwedig Cymru |
---|---|
Poblogaeth | 132,447 |
Daearyddiaeth | |
Gwlad | Cymru |
Arwynebedd | 5,180.6804 km² |
Yn ffinio gyda | Swydd Henffordd, Ceredigion, Sir Fynwy, Sir Ddinbych, Sir Gaerfyrddin, Gwynedd, Rhondda Cynon Taf, Swydd Amwythig, Blaenau Gwent, Bwrdeistref Sirol Caerffili, Merthyr Tudful, Castell-nedd Port Talbot, Wrecsam, Clwyd, Dyfed, Gwent, Morgannwg Ganol, Gorllewin Morgannwg, Swydd Amwythig |
Cyfesurynnau | 52.3°N 3.4167°W |
Cod SYG | W06000023 |
GB-POW | |
Sir yn nwyrain canolbarth Cymru sy'n ymestyn ar hyd y gororau yw Powys, a'r sir gyda'r arwynebedd mwyaf yng Nghymru: 5,179 km² (2,000 mi sg). Cafodd ei henwi ar ôl teyrnas ganoloesol Powys. Mae'n cynnwys tiriogaeth hen siroedd Maldwyn, Maesyfed a Brycheiniog. Mae'n ardal wledig sy'n cynnwys sawl tref farchnad hanesyddol fel Machynlleth, Llanfair-ym-Muallt a'r Trallwng. Y Drenewydd yw canolfan weinyddol y sir, lle ceir prif swyddfeydd yr awdurdod lleol, Cyngor Sir Powys. Yn 2011 roedd y boblogaeth yn 132,200.
Yng Nghyfrifiad 2001 roedd 21% o'r boblogaeth yn siarad Cymraeg.[1]