Prawf o allu peiriant i arddangos ymddygiad deallus sy'n cyfateb i, neu'n ddiwahaniaeth i, ymddygiad bod dynol yw prawf Turing. Cafodd y prawf ei ddatblygu gan Alan Turing yn 1950. Cynigiodd Turing bod arfarnwr dynol yn dyfarnu sgyrsiau iaith naturiol rhwng bod dynol a pheiriant a oedd wedi'i ddylunio i gynhyrchu ymatebion dynol eu natur. Byddai'r arfarnwr yn ymwybodol bod un o'r ddau bartner yn y sgwrs yn beiriant, a byddai'r cyfranogwyr wedi'u gwahanu oddi wrth ei gilydd. Byddai'r sgwrs yn cael ei chyfyngu i sianel testun yn unig fel bysellfwrdd a sgrin fel na fyddai'r canlyniad yn dibynnu ar allu'r peiriant i gyflwyno'r geiriau ar lafar.[2] Os na all yr arfarnwr ddweud gyda sicrwydd pa un yw'r peiriant a pha un yw'r bod dynol, mae'r peiriant yn pasio'r prawf.[3] Nid yw canlyniadau'r prawf yn dibynnu ar allu i roi atebion cywir i gwestiynau, ond yn seiliedig ar debygrwydd yr atebion i'r rhai y byddai bod dynol yn eu rhoi.
Cafodd y prawf ei gyflwyno gan Turing mewn papur a gyhoeddodd yn 1950 o dan y teitl "Computing Machinery and Intelligence", tra oedd yn gweithio ym Mhrifysgol Manceinion (Turing, 1950; p. 460).[4] Mae'n cychwyn trwy ofyn a yw peiriannau yn gallu 'meddwl'. Oherwydd bod 'meddwl' yn anodd i'w ddiffinio, mae Turing yn dewis cyfnewid y cwestiwn gydag un arall, sef: 'A oes cyfrifiaduron digidol dychmygus a fyddai'n gwneud yn dda yn y gem ddynwared?'[5] Mae'r cwestiwn hwn, yn ôl Turing, yn un sy'n gallu cael ei ateb. Mae gweddill y papur yn dadlau yn erbyn yr holl wrthwynebiadau i'w ddatganiad bod peiriannau yn gallu 'meddwl'.[6] Ers i Turing gyflwyno ei brawf, mae wedi bod yn ddylanwadol dros ben a'i feirniadu yn ogystal, ac mae wedi dod yn gysyniad pwysig yn athroniaeth deallusrwydd artiffisial.[7][8]