Defnydd organig yw pren: yn yr ystyr mwyaf cyfyng, cynhyrchir pren fel sylem eilradd ym monion coed (a phlanhigion prenaidd eraill). Mewn coeden fyw, trosglwyddir dŵr a maetholion eraill i'r dail a meinweoedd eraill sy'n tyfu, gan alluogi planhigion prenaidd i gyrraedd maint mawr ac i allu sefyll i fyny ar eu pennau eu hunain.
Am filoedd o flynyddoedd, defnyddiwyd pren at sawl pwrpas, yn bennaf fel tanwydd neu fel defnydd adeiladu er mwyn creu tai, offer, arfau, dodrefn, pacio, celf a phapur.
Gellir dyddio pren drwy ddyddio carbon a chyda rhai rhywiogaethau, gellir defnyddio dendrocronoleg er mwyn darganfod pryd y crëwyd gwrthrych.