Cyfarwyddwr | Matthew Warchus |
---|---|
Cynhyrchydd | James Clayton Christine Langan Cameron McCracken |
Ysgrifennwr | Stephen Beresford |
Serennu | Bill Nighy Imelda Staunton Dominic West |
Cerddoriaeth | Christopher Nightingale |
Sinematograffeg | Tat Radcliffe |
Golygydd | Melanie Oliver |
Castio | Fiona Weir |
Dylunio | Simon Bowles |
Cwmni cynhyrchu | Calamity Films |
Dosbarthydd | CBS Films (2014) (UDA) Pathé (2014) (DU) Senator Film (2014) (Yr Almaen) BBC Films (2014) (DU) |
Dyddiad rhyddhau | 12 Medi 2014 |
Amser rhedeg | 120 munud |
Gwlad | Cymru, Lloegr |
Gwobrau | Queer Palm yng Ngŵyl Ffilmiau Cannes |
Iaith | Saesneg |
Ffilm o'r Deyrnas Unedig o 2014 a ysgrifennwyd gan Stephen Beresford ac a gyfarwyddwyd gan Matthew Warchus ydy Pride. Cafodd ei dangos am y tro cyntaf yn yr adran Pythefnos y Cyfarwyddwyr yng Ngŵyl Ffilm Cannes yn 2014,[1][2] lle enillodd y wobr Queer Palm.[3]
Adrodda'r ffilm y digwyddiadau hanesyddol pan gododd criw o ymgyrchwyr LHDT arian ar gyfer y teuluoedd a effeithiwyd gan Streic y Glowyr yn 1984. Arweiniodd hyn at ddechreuadau'r ymgyrch Lesbiaid a Hoywon yn Cefnogi'r Glowyr.[4] Roedd Undeb Cenedlaethol y Glowyr yn y Deyrnas Unedig yn amharod i dderbyn cefnogaeth yr ymgyrchwyr am eu bod yn poeni am effaith cael perthynas agored gyda grŵp hoyw, felly penderfynodd yr ymgyrchwyr roi'r arian a godwyd i bentref glofaol bychan yng Nghwm Dulais yng Nghymru - gan greu perthynas glos rhwng dwy gymuned tra gwahanol. Roedd y berthynas rhyngddynt yn wahanol i unrhyw beth a welwyd yn flaenorol ond bu'n llwyddiannus.[4]