Prifddinas

Prifddinas yw'r dref neu ddinas sy'n brif ganolfan y llywodraeth mewn endid gwleidyddol, megis gwladwriaeth neu genedl. Lleolir swyddfeydd y llywodraeth yno, a chynhelir cyfarfodydd y senedd a'r llywodraeth yno hefyd. Caerdydd yw prifddinas Cymru. Yn yr Unol Daleithiau, Washington, D.C. yw'r brifddinas, ac mae Llundain yn brifddinas i'r Deyrnas Unedig a Lloegr.

Mae gan bob gwlad yn y byd brifddinas; mae gan rai (er enghraifft, yr Iseldiroedd) fwy nag un. Yn aml, canolfan economaidd y wlad yw'r brifddinas hefyd. Enghreifftiau yw Paris yn Ffrainc a Mosgo yn Rwsia. Mewn llawer o achosion, y brifddinas yw dinas fwyaf y wlad o ran poblogaeth, ond mae yna eithriadau, megis India, Tsieina, Brasil ac Awstralia. Weithiau dewisir prifddinas newydd y tu allan i ardaloedd mwyaf poblog er mwyn osgoi datblygiad pellach yn yr ardaloedd hynny (gweler y map). Mae dinasoedd Brasilia ym Mrasil a Canberra yn Awstralia wedi'u cynllunio'n fwriadol fel prifddinasoedd newydd.

Eginyn erthygl sydd uchod am ddaearyddiaeth. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.

From Wikipedia, the free encyclopedia · View on Wikipedia

Developed by Nelliwinne