Priodas rhwng dau berson o'r un rhyw a/neu hunaniaeth rhyw ydy priodas gyfunryw (a elwir hefyd yn priodas un-rhyw a phriodas hoyw). Cyfeirir weithiau at gydnabyddiaeth gyfreithiol o briodasau cyfunryw neu'r posibilrwydd o gynnal priodas gyfunryw fel cydraddoldeb priodas neu briodas gyfartal, yn benodol gan gefnogwyr.[1][2][3][4][5][6]
Daeth y deddfau modern cyntaf am briodasau cyfunryw i rym yn ystod y degawd cyntaf o'r 21g. Ers mis Mai 2013, mae 18 o wledydd (Yr Ariannin, Gwlad Belg, Brasil, Canada, Denmarc,[nb 1] Ffrainc, Gwlad yr Iâ, Yr Iseldiroedd,[nb 2], Lwcsembwrg, Norwy, Portiwgal, Sbaen, De Affrica, Sweden, Cymru a Lloegr, Seland Newydd[nb 3][7][8], Wrwgwái, Yr Alban a sawl awdurdodaeth is-genedlaethol (rhannau o Fecsico a'r Unol Daleithiau), yn caniatáu cyplau cyfunryw i briodi. Mae mesurau sy'n amlinellu cydnabyddiaeth gyfreithlon o briodasau cyfunryw wedi cael eu cyflwyno, dan ystyriaeth, neu wedi eu llwyddo o leiaf un tŷ deddfwriaethol yn Andorra, y Ffindir, Yr Almaen, Iwerddon, Nepal a Taiwan, yn ogystal â rhannau o Awstralia, Mecsico, a'r Unol Daleithiau.
Mae'r cyflwyniad o ddeddfau priodasau cyfunryw yn amrywio rhwng awdurdodaethau, yn cael eu cyflawni gan newid deddfwriaethol i gyfreithiau priodi, dyfarniad llys sy'n seiliedig ar warantau cyfansoddiadol o gydraddoldeb, neu gan bleidlais (drwy fenter bleidlais neu refferendwm). Mae cydnabod priodasau cyfunryw yn fater gwleidyddol, cymdeithasol hawliau dynol a hawliau sifil, yn ogystal â bod yn fater crefyddol mewn llawer o wledydd ar draws y byd, ac mae trafodaethau yn parhau i godi ynghylch priodasau cyfunryw, yr angen i ddal statws gwahanol (uniad sifil), neu gael gwrthod o gydnabyddiaeth hawliau o'r fath. Ystyrir y gallu i ganiatáu i gyplau cyfunryw i briodi'n gyfreithlon yn un o'r hawliau LHDT pwysicaf.
Gellir cynnal priodasau cyfunryw mewn seremoni sifil neu seciwlar neu mewn sefyllfa grefyddol. Mae crefyddau amrywiol ar draws y byd yn cefnogi priodasau cyfunryw; er enghraifft: Crynwyr, yr Eglwys Esgobaethol, yr Eglwys Gymunedol Fetropolitan, Eglwys Unedig Crist, Eglwys Unedig Canada, Bwdhaeth yn Awstralia, Iddewon Diwygiedig a Cheidwadol, Wiciaid a Phaganiaid, Derwyddon, Cyfanfydwyr Undodaidd, a chrefyddau Americanwyr Brodorol sydd â thraddodiad dau-enaid, yn ogystal â gwahanol grwpiau Cristnogol, Mwslimaidd, Hindŵ, a Bwdhaidd blaengar a modern, a grwpiau Iddewig ac amryw fân grefyddau ac enwadau eraill.
Mae astudiaethau a gynhaliwyd mewn nifer o wledydd yn dangos bod cefnogaeth i gydnabyddiaeth gyfreithiol ar gyfer priodasau cyfrunryw yn cynyddu gyda lefelau uwch o addysg a bod y gefnogaeth yn gryfach ymhlith pobl iau. Yn ogystal, mae polau piniwn mewn gwahanol wledydd yn dangos bod cefnogaeth gynyddol i gydnabyddiaeth gyfreithiol am briodasau cyfunryw ar draws bob hil, ethnigrwydd, oed, crefydd, cysylltiadau gwleidyddol, statws economaidd-gymdeithasol, ac ati.[9][10]
On July 24, 2011 the Marriage Equality Act became a law in New York State forever changing the state's legal view of what a married couple is.
|access-date=
requires |url=
(help)
|trans_title=
ignored (help)CS1 maint: unrecognized language (link)
Gwall cyfeirio: Mae tagiau <ref>
yn bodoli am grŵp o'r enw "nb", ond ni ellir canfod y tag <references group="nb"/>