Deddfau parthed partneriaethau cyfunryw yn EwropPriodas gyfunryw Partneriaethau eraill Cyd-fyw heb gofrestru Heb ei gydnabod Deddfau'n caniatau partneriaeth rhyw gwahanol yn unig
Pasiwyd Deddfwriaeth yn caniatáu priodas gyfunryw yng Nghymru a Lloegr gan Senedd y Deyrnas Unedig yng Ngorffennaf 2013 a daeth i rym ar 1 Mawrth 2014. Cynhaliwyd y priodasau cyfunryw cyntaf ar 29 Mawrth 2014.
Pasiwyd Deddfwriaeth yn caniatáu priodasau cyfunryw yn yr Alban gan Senedd yr Alban yn Chwefror 2014 a derbyniodd Cydsyniad Brenhinol ar 12 Mawrth 2014. Disgwylir i'r priodasau cyfunryw cyntaf gael eu cynnal yn hydref 2014.[1]
Mae Adran Weithredol Gogledd Iwerddon wedi datgan nad yw'n bwriadu cyflwyno deddfwriaeth yn caniatáu priodas gyfynryw yng Ngogledd Iwerddon, ond caiff priodasau cyfunryw o awdurdodau eraill eu trin fel partneriaethau sifil.