Protagoras | |
---|---|
Ganwyd | c. 490 CC Abdera |
Bu farw | c. 420 CC o boddi Môr Ionia |
Galwedigaeth | athronydd |
Mudiad | sophism, athroniaeth cyn-Socratig |
Athronydd Groegaidd cyn-Socratig a flodeuai yn y 5g CC oedd Protagoras (tua 490 CC – tua 420 CC).[1] Ef oedd y cyntaf o'r Soffyddion.
Ganwyd yn Abdera, yn Thracia. Mynegir ei fod mor dlawd yn nechrau ei fywyd fel y dilynai yr alwedigaeth o gario coed, pryd y darfu i Democritus, a foddhawyd gymaint wrth ei weld yn rhwymo i fyny ei fwndel coed mor gywrain, ei gymryd yn un o'i ysgolheigion.
Nid oes dim o ysgrifeniadau Protagoras wedi dyfod i lawr i ni, ond y mae'n amlwg ei fod yn ddyn o alluoedd meddyliol anarferol. Mae rhai o'i ddaliadau yn cael ymdriniaeth y Theaetetus gan Blaton. Teithiodd Protagoras trwy wlad Groeg i'r diben o roddi addysg mewn athroniaeth a rhethreg. Dywedir taw efe oedd y cyntaf ymhlith yr athronwyr Groegaidd a dderbyniodd arian am yr addysg a gyfranai i efrydwyr. Dywed Diogenes Laertius fod cymaint o alw am ei addysg fel y derbyniai weithiau gymaint â chant o'r darnau arian a elwid mina am ei wersi. Dywed Platon iddo, yn ystod y 40 mlynedd y bu yn cyfrannu addysg, ennill mwy o arian na Phidias a deg o gerflunwyr eraill. Yn ystod un o'i ymweliadau ag Athen yr alltudiwyd ef o'i wlad, ac y llosgwyd ei lyfrau yn y farchnad, am iddo ddweud, yn nechrau un o'i weithiau, nas gwyddai pa un a oedd eu duwiau yn bod ai peidio. Yn ôl rhai haneswyr, fe foddodd ar ei fordaith i Sisili. Yn ôl eraill, bu farw ar y fordaith hon.
Ymddengys taw Protagoras oedd y cyntaf i ddysgu areithyddiaeth fel celfyddyd. Os gellir casglu oddi wrth yr enghraifft a roddir o'i waith gan Blaton yn ei Protagoras, yr oedd yn meddu ar ddychymyg bywiog a meistrolaeth fawr ar iaith. Roedd yn dra chyfarwydd yn llenyddiaeth ei wlad, yn enwedig yng ngweithiau'r hen feirdd, y rhai a ddyfynid ganddo yn aml yn ei areithiau. Mynegir taw efe a ddysgodd Isocrates, a chyfeirir at ei ymarferiadau areithyddol gan Cicero. Protagoras oedd y cyntaf i ddyfod â rhaniadau celfyddgar i mewn i'w rethreg. Ymddengys ei fod wedi ysgrifennu gweithiau ar iaith ac areithyddiaeth. Meddai ar ddychymyg bywiog a ffrwythlon, cof rhyfeddol, a huodledd mawr; ond yr oedd yn hunanol, haerllug, a rhyfygus. Siaradai am ei gydymgeiswyr am enwogrwydd gyda dirmyg, ac amdano'i hun gyda graddau o hyder a dueddai i gynhyrfu edmygedd y bobl gyffredin.