Ptolemi XII Auletes | |
---|---|
![]() | |
Ganwyd | 117 CC ![]() |
Bu farw | 51 CC ![]() Alexandria ![]() |
Galwedigaeth | brenin neu frenhines ![]() |
Swydd | Pharo ![]() |
Tad | Ptolemi IX Lathyros ![]() |
Priod | Cleopatra V of Egypt ![]() |
Plant | Cleopatra Tryphaena, Berenice IV of Egypt, Cleopatra, Arsinoe IV of Egypt, Ptolemi XIII Theos Philopator, Ptolemi XIV ![]() |
Llinach | Brenhinllin y Ptolemïaid ![]() |
Brenin yr Aifft o 80 CC hyd 58 CC ac eto o 55 CC hyd ei farwolaeth yn 51 CC oedd Ptolemi XII Auletes neu Ptolemi Neos Dionysos Theos Philopator Theos Philadelphos (Groeg: Πτολεμαῖος Νέος Διόνυσος Θεός Φιλοπάτωρ Θεός Φιλάδελφος (117 CC - 51 CC). Roedd yn aelod o frenhinllin y Ptolemïaid ac yn ddisgynnydd i Ptolemi I Soter. Mae'r llysenw "Auletes" yn golygu "y ffliwtydd".
Daeth Ptolemi XII i'r orsedd yn 80 CC wedi i Ptolemi XI gael ei ladd gan dyrfa oherwydd iddo lofruddio ei gyd-deyrn Berenice III. Dilynodd bolisi o gyfeillgarwch a Gweriniaeth Rhufain. Yn 58 CC. fei' gorfodwyd i ffoi i Rufain, ac olynwyd ef gan ei ferch Berenice IV. Llwyddodd i adennill ei orsedd trwy dalu 10,000 talent i Aulus Gabinius i ymosod ar yr Aifft, a diorseddu a dienyddio Berenice.
Ychydig cyn ei farwolaeth, gwnaeth ei ferch, Cleopatra VII yn gyd-deyrn.