Ptolemi I Soter | |
---|---|
![]() | |
Ganwyd | 360s CC ![]() Macedon ![]() |
Bu farw | 280s CC ![]() Alexandria ![]() |
Dinasyddiaeth | Macedon, Ptolemaic Kingdom ![]() |
Galwedigaeth | brenin neu frenhines, hanesydd, person milwrol ![]() |
Swydd | somatophylakes, Pharo, strategos ![]() |
Tad | Lagus ![]() |
Mam | Arsinoe of Macedon ![]() |
Priod | Artakama, Thaïs, Eurydice of Egypt, Berenice I o'r Aipht ![]() |
Plant | Ptolemy II Philadelphus, Arsinoe II, Ptolemy Ceraunus, Meleager, Lysandra, Ptolémaïs, Philotera, Argaeus of Egypt, Irene, Lagos ![]() |
Llinach | Brenhinllin y Ptolemïaid ![]() |
Cadfridog Macedonaidd dan Alecsander Fawr a sylfaenydd brenhinllin y Ptolemiaid yn yr Hen Aifft oedd Ptolemi I Soter (Groeg: Πτολεμαῖος Σωτήρ, Ptolemaios Soter, "Ptolemi y Gwaredwr", 367 CC—283 CC).
Roedd Ptolemi yn un o gadfridogion mwyaf blaenllaw Alecsander, ac yn gyfaill iddo o'u bachgendod. Bu ganddo ran amlwg yn ymgyrchoedd Alecsander yn Affganistan ac India, a chofnodir iddo briodi tywysogers Bersaidd, Artakama, yn Susa.
Wedi marwolaeth Alecsander yn 323 CC, daeth Ptolemi yn satrap yr Aifft. Ymladdodd yn llwyddiannus yn erbyn un arall o gadfrodogion Alecsander, Perdiccas, pan ymosododd ef ar yr Aifft, ac yn 305/4 CC cyhoeddodd ei hun yn frenin. Yn 285 CC, gwnaeth ei fab, Ptolemi II Philadelphus, yn gyd-frenin.