Pysgod Amrediad amseryddol: | |
---|---|
Amryw fathau o bysgod | |
Dosbarthiad gwyddonol | |
Teyrnas: | Animalia |
Ffylwm: | Chordata |
Ddim wedi'i restru: | Craniata (rhan) |
Prif grwpiau | |
Anifeiliaid asgwrn-cefn y dŵr sydd â thagellau, esgyll, croen cennog a chalon ddwy siambr yw pysgod. Mae tua 32,000 o rywogaethau ac fe'u dosberthir mewn sawl grŵp, megis pysgod esgyrnog (Osteichthyes) fel pennog neu eog, pysgod di-ên (Agnatha), er enghraifft lampreiod, a physgod cartilagaidd (Chondrichthyes) fel morgwn a morgathod. Y ffurf dorfol arnynt yw 'haig o bysgod'.
Gall pysgod fyw mewn dŵr croyw (ffres) fel llyn, neu afon, neu mewn dŵr hallt (dŵr môr). Dydy pysgod cregyn ddim yn wir bysgod: mae'r grwp yma'n cynnwys molysgiaid a chramenogion sydd yn cael eu bwyta.
Mae tua 99% o rywogaethau byw y pysgod yn bysgod rheidden-asgellog (ray-fins) (o'r dosbarth Actinopterygii), a dros 95% ohonynt yn perthyn i is-grŵp y teleostiaid.
Yr organebau cynharaf y gellir eu dosbarthu fel pysgod oedd y cordogiaid meddal a ymddangosodd gyntaf yn ystod y cyfnod Cambriaidd (tua 542 - 488.3 miliwn o flynyddoedd yn ôl). Er nad oedd ganddynt asgwrn cefn, go iawn, roedd ganddynt notocordau a oedd yn caniatáu iddynt fod yn fwy ystwyth na'u cymheiriaid di-asgwrn cefn. Byddai pysgod yn parhau i esblygu trwy'r oes Paleosöig, gan arallgyfeirio i amrywiaeth eang o ffurfiau. Datblygodd llawer o bysgod y Paleosöig arfwisg allanol a oedd yn eu hamddiffyn rhag ysglyfaethwyr. Ymddangosodd y pysgodyn gyda genau, am y tro cyntaf, yn y cyfnod Silwraidd (408.5 - 443.5 miliwn o flynyddoedd yn ôl) ac ar ôl hynny daeth llawer (fel siarcod ) yn ysglyfaethwyr morol grymus, yn hytrach nac yn ddim ond ysglyfaeth i'r arthropodau.
Mae'r pysgodyn nodweddiadol yn ectothermig, mae ganddo gorff llyfn ar gyfer nofio cyflym; mae'n echdynnu ocsigen o ddŵr gan ddefnyddio tagellau neu'n defnyddio organ anadlu affeithiwr i anadlu ocsigen atmosfferig, mae ganddo ddwy set o esgyll, fel arfer un neu ddau (anaml tair) esgyll dorsal, ac mae ganddo hefyd asgell wrth y pen ôl, ac asgell gynffon; mae ganddo hefyd enau (jaws), croen sydd fel arfer wedi'i orchuddio â chen, ac mae'n dodwy wyau.
Mae'r rhan fwyaf o bysgod yn ectothermig ("gwaed oer"), gan ganiatáu i dymheredd eu cyrff amrywio wrth i'r tymheredd amgylchynol newid, er y gall rhai o'r nofwyr mawr fel y morgi mawr gwyn a'r tiwna ddal tymheredd craidd uwch.[1][2] Gall pysgod gyfathrebu'n acwstig â'i gilydd, gan amlaf yng nghyd-destun bwydo, ymosod neu baru.[3]
Mae digonedd o bysgod yn y rhan fwyaf o foroedd, llynnoedd ac afonydd ac ym mhob amgylchedd dyfrol, o nentydd mynydd uchel (e.e. y torgoch a'r gwyniad pendew) i ddyfnderoedd affwysol y cefnforoedd dyfnaf (e.e. llysywod a malwod), er nad oes unrhyw rywogaeth wedi’i dogfennu eto yn y 25% dyfnaf o'r cefnfor.[4] Gyda 34,300 o rywogaethau a ddisgrifiwyd, mae pysgod yn arddangos mwy o amrywiaeth rhywogaethau nag unrhyw grŵp arall o fertebratau.[5]
Mae pysgod yn adnodd pwysig i fodau dynol ledled y byd, yn enwedig fel bwyd. Ceir pysgotwyr masnachol a chynhaliol yn hela pysgod mewn pysgodfeydd gwyllt neu'n eu ffermio mewn pyllau neu mewn cewyll yn y cefnforoedd. Maent hefyd yn cael eu dal gan bysgotwyr hamdden, yn cael eu cadw fel anifeiliaid anwes, eu codi gan geidwaid pysgod, a'u harddangos mewn acwaria cyhoeddus.
Bu pysgod yn rhan mawr o ddiwylliant y Celtiaid a diwylliannau eraill ar hyd yr oesoedd, gan wasanaethu fel duwiau, symbolau crefyddol, ac fel testunau celf, llyfrau a ffilmiau. Er enghraifft, yn chwedl Culhwch ac Olwen, ceir un annoeth neu gamp, lle mae'r arwr (gyda marchogion Arthur) yn ceisio dod o hyd i Fabon fab Modron. I gyflawni'r gamp honno rhaid canfod yr anifail hynaf yn y byd. Dechreuir gyda Charw Rhedynfre.. ac ymlaen nes cyrraedd Tylluan Cwm Cowlyd, sy'n nodi bod un sy'n llawer hyn na hi: sef Eog Llyn Lliw. Aiff Culhwch ar gefn yr eog, a dont o hyd i Fabon a chyflawnir yr annoeth. Mewn chwedloniaeth Gwyddelig, ceir An Bradán Feasa sef 'Eog Pob Gwybodaeth'.
Daeth tetrapodau (amffibiaid, ymlusgiaid, adar a mamaliaid) i'r amlwg o fewn pysgod llabedog, ac felly o ran cytras, maent yn bysgod hefyd. Fodd bynnag, yn draddodiadol mae pysgod (pisces neu ichthyes) yn cael eu rendro'n baraffyletig trwy eithrio'r tetrapodau, ac felly nid ydynt yn cael eu hystyried yn grŵp tacsonomig ffurfiol mewn bioleg systematig, oni bai ei fod yn cael ei ddefnyddio yn yr ystyr cytrasaidd, gan gynnwys tetrapodau,[6][7] er fel arfer caiff y gair fertebrat ei ffafrio a'i ddefnyddio at y diben hwn (pysgod a thetrapodau) yn lle hynny. Ar ben hyn, mae morfilod, er eu bod yn famaliaid, yn aml wedi cael eu hystyried yn bysgod gan wahanol ddiwylliannau ar wahanol gyfnodau.