Poster y Ffilm | |
---|---|
Cyfarwyddwr | Marc Forster |
Cynhyrchydd | Michael G. Wilson Barbara Broccoli |
Ysgrifennwr | Joshua Zetumer Paul Haggis Neal Purvis Robert Wade |
Serennu | Daniel Craig Mathieu Amalric Olga Kurylenko Gemma Arterton Judi Dench Jeffrey Wright Giancarlo Giannini |
Cerddoriaeth | David Arnold |
Sinematograffeg | Roberto Schaefer |
Golygydd | Matt Chesse Rick Pearson |
Dylunio | |
Cwmni cynhyrchu | Metro-Goldwyn-Mayer Columbia Pictures |
Dyddiad rhyddhau | 31 Hydref, 2008 |
Amser rhedeg | 106 munud |
Iaith | Saesneg |
(Saesneg) Proffil IMDb | |
22ain ffilm James Bond yw Quantum of Solace (2008), cynhyrchwyd gan EON Productions. Rhyddhawyd y ffilm yn y Deyrnas Unedig ar 31 Hydref 2008 a disgwylir i'r ffilm gael ei rhyddhau yng Ngogledd America ar 14 Tachwedd. Mae Quantum of Solace yn ddilyniant i'r ffilm Casino Royale yn 2006. Cafodd y ffilm ei gyfarwyddo gan Marc Forster a dyma ail berfformiad Daniel Craig fel James Bond. Yn y ffilm, brwydra Bond yn erbyn Dominic Greene (Mathieu Amalric), aelod o'r mudiad Quantum sy'n esgus bod yn amgylcheddwr. Ei fwriad mewn gwirionedd yw cynnal coup d'état ym Molifia ac i gymryd rheolaeth o'u cyflenwad dŵr. Dymuniad Bond i ddial am farwolaeth Vesper Lynd a chaiff ei gynorthwyo gan Camille Montes (Olga Kurylenko).
Creodd Michael G. Wilson, cynhyrchydd y ffilm, y plot tra'n ffilmio Casino Royale. Cyfrannodd Neal Purvis, Robert Wade, Paul Haggis a Joshua Zetumer at y sgript. Dewiswyd y teitl o stori fer o 1960 o For Yuor Eyes Only, gan Ian Fleming. Serch hynny, nid yw'r ffilm yn cynnwys unrhyw elfennau o'r stori wreiddiol. Gwnaed y ffilmio yn Panama, Chile, yr Eidal ac Awstria, tra bod y golygfeydd mewnol wedi'u ffilmio yn Stiwdios Pinewood. Nod Forster oedd i greu ffilm fodern a fyddai'n cynnwys motifau sinema clasurol.