Math | cymdogaeth |
---|---|
Enwyd ar ôl | Lladin |
Daearyddiaeth | |
Lleoliad | Paris |
Sir | Paris |
Gwlad | Ffrainc |
Cyfesurynnau | 48.85°N 2.3425°E |
Ardal ym Mharis, prifddinas Ffrainc, yw'r Quartier latin neu yn Gymraeg yr Ardal Ladinaidd[1] a fu'n hafan i fyfyrwyr ac ysgolheigion, cerddorion ac arlunwyr ers mil o flynyddoedd. Lleolir ger La Rive Gauche, hynny yw "Glan Chwith" Afon Seine, yn y 5ed arrondissement ac yng ngogledd a dwyrain y 6ed arrondissement.
Gellir olrhain hanes yr ardal wreiddiol yn ôl i'r flwyddyn 52 CC, dyddiad sefydlu'r ddinas Lutetia gan y Rhufeiniaid. Tyfodd y ddinas a elwid yn hwyrach Paris o amgylch yr ardal hon. Saif rhai o'r adeiladau Rhufeinig hyd heddiw, gan gynnwys yr amffitheatr a'r baddondai. Cyfeiria'r enw Quartier latin at y Lladin, iaith y prifysgolion a'r Eglwys yn ystod yr Oesoedd Canol. Y Sorbonne, ysgol ddiwinyddol Prifysgol Paris, oedd yr adeilad academaidd cyntaf o nod yn yr ardal a sefydlwyd tua 1253. Yn y canrifoedd ers hynny sefydlwyd sawl prifysgol, coleg, ac ysgol o amgylch y Sorbonne. O ganlyniad i'r niferoedd mawr o fyfyrwyr a drigai yno, datblygodd diwylliant ysgolheigaidd ond hefyd awyrgylch bywiog sy'n goroesi heddiw yn y siopau llyfrau a thafarnau ar hyd y strydoedd cul. Bellach mae'r ardal yn llawn caffis a bistros yn ogystal â chanolfannau adloniant megis y Comédie Française. Ymhlith yr adeiladau hanesyddol eraill mae'r Pantheon (beddrod Victor Hugo, Voltaire ac Emile Zola), parciau Jardin du Luxembourg a Jardin des Plantes, yr amgueddfa ganoloesol a'r amgueddfa natur.
Lleolir y Quartier latin yn agos i ddwy ardal arall La Rive Gauche sy'n ganolfannau deallusol a chreadigol: Faubourg Saint-Germain, a fu'n gymdogaeth aristocrataidd yn hanesyddol; a Montparnasse, sy'n enwog am ei chaffis, ei mynwent, a'i chladdgelloedd. Mae'r tair ardal hon i gyd yn gartref i fyfyrwyr ac academyddion hyd heddiw, er bod rhai yn pryderu bod y cylch yn colli ei hunaniaeth yn sgil boneddigeiddio a thwristiaeth.