Queer as Folk | |
---|---|
Genre | Drama / Opera sebon |
Serennu | Aidan Gillen Craig Kelly Charlie Hunnam |
Gwlad/gwladwriaeth | DU |
Iaith/ieithoedd | Saesneg |
Nifer cyfresi | 2 |
Nifer penodau | 10 |
Cynhyrchiad | |
Amser rhedeg | c. 35 i 50 munud |
Darllediad | |
Sianel wreiddiol | Channel 4 |
Darllediad gwreiddiol | 23 Chwefror, 1999 – 22 Chwefror, 2000 |
Cyfres deledu Brydeinig ym 1999 oedd Queer as Folk yn olrhain hanes bywydau tri dyn hoyw sy'n byw o amgylch pentref hoyw Canal Street ym Manceinion. Ysgrifennwyd Queer as Folk a Queer as Folk 2 gan Russell T. Davies. Ef hefyd oedd yn gyfrifol am ysgrifennu'r ddrama Bob and Rose ac am ad-fywiad Doctor Who ar y BBC yn 2005. Cafodd y gyfres ei ail-darlledu rhwng 14eg a'r 18fed o Hydref 2007 fel rhan o ddathliadau penblwydd Sianel 4 yn 25 oed.
Cynhyrchwyd Queer as Folk gan y cwmni teledu annibynnol Red Production Company ar gyfer Sianel 4, cwmni a oedd wedi dangos eu parodrwydd i ddelio a deunydd hoyw mewn ffilmiau fel Beautiful Thing. Daw teitl y gyfres o ymadrodd ieithyddol o Ogledd Lloegr "There's nought so queer as folk" sy'n golygu "does dim mor rhyfedd a phobol." Bwriad gwreiddiol Davies oedd i ddefnyddio hyn fel enw'r gyfres ond awgrymodd Sianel 4 y dylid byrhau'r enw i Queer as Folk.
Cafodd y gerddoriaeth agoriadol a'r gerddoriaeth a oedd yn cyd-fynd â'r gyfres ei ysgrifennu'n arbennig ar gyfer y gyfres gan Murray Gold.