![]() | |
Math | gorsaf Llu Awyr Brenhinol ![]() |
---|---|
Daearyddiaeth | |
Sir | Ynys Môn ![]() |
Gwlad | ![]() |
Cyfesurynnau | 53.2481°N 4.5353°W ![]() |
Rheolir gan | yr Awyrlu Brenhinol ![]() |
![]() | |
Perchnogaeth | y Weinyddiaeth Amddiffyn ![]() |
Gorsaf a maes awyr yn perthyn i'r Llu Awyr Brenhinol yng ngogledd-orllewin Ynys Môn yw RAF y Fali neu Llu Awyr Brenhinol y Fali (Saesneg: RAF Valley). Cymer ei enw o Y Fali gerllaw.
Adeiladwyd RAF y Fali yn 1941, ac yn ystod y gwaith adeiladu, cafwyd hyd i gasgliad pwysig o arfau a chelfi o Oes yr Haearn yn llyn Cerrig Bach gerllaw. Prif swyddogaeth yr orsaf yw hyfforddi awyrennwyr i ddefnyddio awyrennau jet cyflym, gan ddefnyddio jetiau BAE Hawk. Mae hefyd adran o hofrennyddion Sea King, sy'n cael eu defnyddio i roi gwasanaeth achub o longau ym Môr Iwerddon ac o fynyddoedd Eryri.
Mae maes awyr sifil Maes Awyr Môn gerllaw yn dal i berthyn i'r RAF ac mae RAF y Fali yn gyfrifol am reoli traffig awyr yno o hyd.