![]() | |
Enghraifft o: | four funnel liner, llongddrylliad ![]() |
---|---|
Daeth i ben | 15 Ebrill 1912 ![]() |
Màs | 52,310 tunnell ![]() |
Gwlad | Gogledd Iwerddon ![]() |
Dechreuwyd | 31 Mawrth 1909 ![]() |
Lleoliad | Cefnfor yr Iwerydd ![]() |
Perchennog | White Star Line, International Mercantile Marine Company ![]() |
![]() | |
Gwneuthurwr | Harland and Wolff ![]() |
Enw brodorol | Titanic ![]() |
Hyd | 269.1 metr ![]() |
Tunelledd gros | 46,329 ![]() |
![]() |
Llong deithio gefnforol yn perthyn i gwmni'r White Star Line oedd yr RMS Titanic. Suddodd y llong 11 mis ar ôl iddi gael ei lansio; roedd ar ei thaith gyntaf ar draws yr Iwerydd. Dechreuodd y fordaith o borthladd Southampton i Efrog Newydd ar 10 Ebrill 1912. Dywedir mai enghraifft o 'falchder dynol yn arwain at drychineb' oedd y trasiedi yma.
Titanic oedd llong fwyaf y byd ar yr adeg y cafodd ei adeiladu. Hi oedd yr ail llong o'r ddosbarth Olympic allan o dri a adeiladwyd gan Harland & Wolff yn Belffast ar gyfer y White Star Line.
Teithiodd y llong o Southampton i Cherbourg, Ffrainc, ac yna i Queenstown, yn Iwerddon, cyn cychwyn ar ei daith i America.
Am 11:40pm ar 14 Ebrill 1912 tarodd y Titanic fynydd o rew tua 400 o filltiroedd o Newfoundland. Ar ôl 2 awr a 40 munud, suddodd y llong am 2.20am ar 15 Ebrill. Collodd tua 1,514 o bobl eu bywydau. Achubwyd 705 o bobl yn unig gan nad oedd digon o fadau achub ar gyfer pawb ar fwrdd y Titanic, a nid oedd nifer o'r badau achub yn cael eu llenwi yn llwyr cyn gadael y llong. Roedd gan rai ohonynt 28 o bobl yn unig, allan o 65 lle posib.
Capten y llong oedd Edward J. Smith, a hon oedd ei fordaith olaf cyn ymddeol. Fe fu farw’r person olaf i deithio ar y Titanic, Millvina Dean, yn 98 oed yn 2009. Dim ond deufis oed oedd hi pan suddodd y llong ar y daith yn 1912.