Enghraifft o: | Iaith tagio, fformat XML, ffrwd we |
---|---|
Dechrau/Sefydlu | Mawrth 1999 |
Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia |
Ffrwd we yw Syndicetiad Syml Iawn[1] neu RSS (RDF Site Summary neu Really Simple Syndication)[2][3] sy'n galluogi defnyddwyr a rhaglenni i gael mynediad at ddiweddariadau i wefannau mewn fformat safonol y gellir ei ddarllen gan gyfrifiadur. Gall tanysgrifio i ffrydiau RSS ganiatáu i ddefnyddiwr gadw golwg ar lawer o wahanol wefannau mewn un cydgrynhoad newyddion, sy'n monitro gwefannau yn gyson am gynnwys newydd, gan ddileu'r angen i'r defnyddiwr eu gwirio fesul gwefan. Gall cydgrynwyr newyddion (neu "ddarllenwyr RSS") gael eu cynnwys mewn porwr, eu gosod ar gyfrifiadur desg, neu eu gosod ar ddyfais symudol.
Mae gwefannau fel arfer yn defnyddio ffrydiau RSS i gyhoeddi gwybodaeth sy'n cael ei diweddaru'n aml, megis cofnodion blog, penawdau newyddion, penodau o gyfresi sain a fideo, neu ar gyfer dosbarthu podlediadau. Gall dogfen RSS (a elwir yn "ffrwd", "ffrwd wew", neu "sianel") gynnwys testun llawn neu gryno, a metadata, megis dyddiad cyhoeddi ac enw'r awdur. Mae fformatau RSS yn cael eu pennu gan ddefnyddio ffeil XML generig.
Er bod fformatau RSS wedi datblygu mor gynnar â Mawrth 1999,[4] dechreuodd RSS gael ei ddefnyddio'n eang rhwng 2005 a 2006, a phenderfynodd sawl porwr gwe mawr ddefnyddio'r eicon ("").[5] Mae data ffrwd RSS yn cael ei gyflwyno i ddefnyddwyr gan ddefnyddio meddalwedd a elwir yn 'gydgrynwr newyddion' a'r enw ar drosglwyddo cynnwys yw syndicetiad gwe. Tanysgrifia defnyddwyr i ffrwd naill ai drwy fewnbynnu URI ffrwd i'r darllenydd neu drwy glicio ar eicon ffrwd y porwr. Mae'r darllenydd RSS yn gwirio ffrwd y defnyddiwr yn rheolaidd am wybodaeth newydd a gall ei lawrlwytho'n awtomatig, os yw'r swyddogaeth honno wedi'i galluogi.
|title=
at position 35 (help)