Race Horses

Race Horses
Enghraifft o:band Edit this on Wikidata
Gwlady Deyrnas Unedig Edit this on Wikidata
Label recordioRecordiau Peski Edit this on Wikidata
Dod i'r brig2013 Edit this on Wikidata
Dod i benIonawr 2013 Edit this on Wikidata
Am yr orsaf radio, gweler Radio Luxembourg.

Grŵp pop seicadelig a ffurfiwyd yn Aberystwyth yn 2005 yw Race Horses, adnabyddwyd fel Radio Luxembourg gynt. Diolch i gigio a recordio cyson mae'r grŵp yma wedi profi llwyddiant mawr mewn amser byr iawn. Prif ganwr a chyfansoddwr y band yw Meilyr Jones (gynt o'r band Mozz) - sydd hefyd yn chwarae'r gitâr fas. Mae Dylan "Huggies" Hughes yn chwarae'r synth. "Bass Drum" Ben Herrick sy'n chwarae'r drymiau. Alun "Gaff" Gaffey (sydd hefyd yn chwarae i'r grwp ffwnc a sgiffl Pwsi Meri Mew) sy'n chwarae'r gitâr. Mae eu holl waith hyd yn hyn wedi ei gynhyrchu gan Euros Childs. Dyluniwyd clawr eu dau EP diweddaraf, Diwrnod efo'r Anifeiliaid a Where is Dennis? / Cartoon Cariad gan Ruth Jên, mae hi hefyd wedi dylunio set ar y cyd gyda'r band ar gyfer eu perfformiadau byw.

Gadawodd y drymiwr Ben Herrick y band yn hwyr yn 2008, a fe gymerwyd ei le gan Gwion Llewelyn.

Newidiwyd enw'r band o Radio Luxembourg i Race Horses ym mis Chwefror 2009, oherwydd y problemau cyfreithiol ynghlwm a rhannu enw gyda'r orsaf radio o'r un enw.

Cyhoeddwyd fod y band yn gwahanu yn mis Ionawr 2013 am resymau creadigol.[1][2]

Yn 2019 aeth Dylan Hughes, un o aelodau'r band, ati i ffurfio band newydd. Ynys.

  1.  Race Horses yn rhoi’r ffidil yn y to. Golwg360 (11 Ionawr 2013).
  2. Datganiad ar gyfrif Twitter y band

From Wikipedia, the free encyclopedia · View on Wikipedia

Developed by Nelliwinne