Ramzi Yousef | |
---|---|
Ganwyd | 27 Ebrill 1968, 20 Mai 1967 Coweit |
Dinasyddiaeth | Pacistan |
Alma mater | |
Galwedigaeth | terfysgwr |
Terfysgwr Kuwaitaidd o linach gymysg Pacistanaidd a Phalesteinaidd sy'n enwocaf am ei ran mewn cynllunio ymosodiad ar Ganolfan Masnach y Byd yn 1993 yw Ramzi Ahmed Yousef neu Ramzi Mohammed Yousef (Arabeg: رمزي يوسف). Fe'i arestiwyd yn Islamabad yn 1995 a'i estraddodi i'r Unol Daleithiau, lle gafodd ei roi ar brawf yn Ninas Efrog Newydd a'i ddyfarnu'n euog, ynghŷd â dau o'i gyd-gynllwynwyr, o gynllunio Cynllwyn Bojinka. Dywedodd Yousef, "rydw i'n derfysgwr, ac yn falch o hynny cyn belled â'i bod yn erbyn llywodraeth yr Unol Daleithiau".[1] Cafodd ei ddedfrydu i garchar am oes heb barôl. Khalid Shaikh Mohammed, aelod hŷn o al-Qaeda sydd hefyd dan warchodaeth yr Unol Daleithiau, yw ewythr Yousef.
Mae Yousef bellach yn honni ei fod wedi troi'n Gristion.[2]