Ray Tomlinson | |
---|---|
![]() | |
Ganwyd | Raymond Samuel Tomlinson ![]() 23 Ebrill 1941 ![]() Amsterdam ![]() |
Bu farw | 5 Mawrth 2016 ![]() o trawiad ar y galon ![]() Lincoln ![]() |
Dinasyddiaeth | Unol Daleithiau America ![]() |
Alma mater | |
Galwedigaeth | rhaglennwr, dyfeisiwr, dyfeisiwr patent, gwyddonydd cyfrifiadurol, cynllunydd ![]() |
Cyflogwr | |
Adnabyddus am | e-bost, TENEX, symbol at ![]() |
Gwobr/au | Gwobr Tywysoges Asturias am Umchwyl Technegol a Gwyddonol, Eduard-Rhein Cultural Award, Gwobr Hall of Fame y Rhyngrwyd, Gwobr Rhyngrwyd yr IEEE ![]() |
Gwefan | http://openmap.bbn.com/~tomlinso/ray/home.html ![]() |
Rhaglennwr o'r Unol Daleithiau oedd Raymond Samuel Tomlinson (23 Ebrill 1941 – 5 Mawrth 2016) a ddatblygodd y system E-bost cyntaf ar rwydwaith yr ARPAnet, rhagflaenydd y Rhyngrwyd, yn 1971.[1] Hwn oedd y system gyntaf oedd yn gallu danfon negeseuon rhwng defnyddwyr ar gyfrifiaduron gwahanol wedi eu cysylltu gyda'r ARPAnet. (Cyn hynny, roedd hi'n bosib danfon e-bost i ddefnyddwyr ar yr un cyfrifiadur yn unig). I gyflawni hyn, defnyddiodd y symbol @ i wahanu'r defnyddiwr o enw'r peiriant, ac mae wedi ei ddefnyddio mewn cyfeiriadau e-bost byth ers hynny.[2] Mae Oriel Enwogion y Rhyngrwyd yn adrodd hanes ei waith ac mae'n dweud "Fe wnaeth rhaglen e-bost Tomlinson ddechrau chwyldro llwyr, gan newid yn sylfaenol y ffordd mae pobl yn cyfathrebu.[1]