Refferendwm

Refferendwm yw pleidleisio ar ddeddfwriaeth benodol gan yr etholaeth gyfan i'w derbyn neu'i gwrthod. Gall fod ar lefel cenedlaethol, rhanbarthol neu leol.

Yn y DU cafwyd refferendwm ar aelodaeth o'r Gymuned Economaidd Ewropeaidd (yr EEC, rhagflaenydd yr Undeb Ewropeaidd bresennol). Yng Nghymru a'r Alban cynhaliwyd refferenda ar sefydlu siambrau etholedig datganoliedig yn 1979 a 1997. Yng Nghymru ei hun cafwyd sawl 'refferendwm' neu bôl lleol (ar lefel y sir) dros y blynyddoedd ar bwnc llosg Cau'r Tafarnau ar y Sul.

Yn yr Unol Daleithiau mae rhai taleithiau yn caniatau math o refferendwm a elwir yn initiative, lle gall unigolyn neu grŵp o ddinesyddion ddrafftio cynnig ar bwnc penodol yn ymwneud â llywodraeth y dalaith ac, os ceir digon o lofnodion ar ddeiseb, ei roi o flaen yr etholwyr i bleidleisio arno.


From Wikipedia, the free encyclopedia · View on Wikipedia

Developed by Nelliwinne