Cynhaliwyd refferendwm annibyniaeth i Gyrdistan Irac ar 25 Medi 2017. Yn ôl comisiwn etholiadol y Cyrdiaid, roedd 72% o bobl oedd yn gymwys wedi pleidleisio, a phleidleisiodd 92.73% ohonynt o blaid annibyniaeth Cyrdistan oddi ar Irac. Ni chydnabuwyd y refferendwm gan lywodraeth Irac.[1]