Enghraifft o: | Refferendwm |
---|---|
Dyddiad | 18 Medi 1997 |
Lleoliad | Cymru |
Gwladwriaeth | y Deyrnas Unedig |
Roedd cynnal refferendwm datganoli i Gymru yn 1997 yn rhan o raglen ehangach y Blaid Lafur i foderneiddio cyfansoddiad y Deyrnas Unedig.
Cynhaliwyd y refferendwm ar y 18fed o Fedi gyda chanlyniad agos iawn. Roedd 50.3% (558,419) o blaid datganoli a 49.7% (552,698) yn erbyn. Enillwyd y bleidlais gyda dim ond 6,721 o fwyafrif. Roedd 51.1% wedi bwrw eu pleidlais.