Reform UK | |
---|---|
Cadeirydd | Nigel Farage |
Arweinydd | Nigel Farage |
Slogan | Change Politics for Good |
Sefydlwyd | 23 Tachwedd 2018 |
Pencadlys | 83 Stryd Victoria Llundain SW1 0HW[1] |
Aelodaeth (2019) | 115,000 |
Rhestr o idiolegau | Gwrth Ewrop Poblyddiaeth Gwrth gyfyngiadau COVID |
Lliw | Aqua, gwyn |
Llywodraeth Lleol yn y DU | 5 / 19,698 |
Gwefan | |
reformparty.uk |
Mae Reform UK (weithiau gelwir yn Diwygio DU yn Gymraeg[2]) yn blaid wleidyddol sy'n gwrthwynebu aelodaeth o'r Undeb Ewropeaidd (UE) i'r Deyrnas Unedig. Yn gyffredinol, fe'i disgrifir fel "poblyddol" (populist), ac fe'i cefnogir gan bobl sy'n rhwystredig gyda sut y gweithredwyd canlyniad Refferendwm 2016 gan Lywodraeth Lloegr ac sy'n dymuno gadael yr UE heb aros yn rhan o'r farchnad sengl na'r undeb tollau. Mae Reform UK yn portreadu ei hun fel plaid sy'n canolbwyntio ar adfer sofraniaeth ddemocrataidd Prydain. Ei phrif bolisi yw i'r DU adael yr UE a masnachu ar delerau Sefydliad Masnach y Byd hyd nes y gellir gwneud cytundebau masnach ffurfiol.[3][4] Fe'i gelwid cyn 6 Ionawr 2021 yn "Blaid Brexit".