Mae'r erthygl hon yn cofnodi mater cyfoes. Gall y wybodaeth sydd ynddi newid o ddydd i ddydd. |
Dechreuodd rhaglen niwclear Iran yn yr 1950au gyda chymorth yr Unol Daleithiau. Yn dilyn y Chwyldro Islamaidd yn 1979, bu'r llywodraeth yn dadfyddino'r rhaglen am gyfnod. Ailddechreuodd Iran y rhaglen yn fuan, ond gyda llai o gymorth Gorllewinol na chyn y chwyldro. Mae rhaglen niwclear gyfredol Iran yn cynnwys nifer o safleoedd ymchwil, mwynfa wraniwm, adweithydd niwclear, a chyfleusterau prosesu wraniwm sydd yn cynnwys ffatri cyfoethogi wraniwm.[1]
Mae adfywiad rhaglen niwclear Iran wedi dod yn destun pryder i'r Gorllewin, yn benodol oherwydd ideoleg eithafol yr Arlywydd Mahmoud Ahmadinejad (a ddaeth i rym yn Awst 2005) yn cynnwys ei farn y dylid "chwalu Israel oddi ar fap y byd".[2] Mae rhai'n credu felly bod amcan y llywodraeth yw i ddatblygu arfau niwclear ac nid i gynhyrchu ynni niwclear yn unig fel maent yn haeru. Yn haf 2003 dywedodd yr Arlywydd Bush, Arlywydd yr Unol Daleithiau:
Rydym ni [yr Unol Daleithiau a Rwsia eisiau gweithio gyda'n gilydd, yn ogystal â gyda'r Asiantaeth Ynni Atomig Ryngwladol, i sicrhau nad oes ganddyn nhw yr un arf niwclear.[3]
Ar 23 Rhagfyr, 2006 gorfododd Cyngor Diogelwch y Cenhedloedd Unedig sancsiynau economaidd ar Iran yn gwahardd cyflenwad technoleg a defnyddiau niwclear (Penderfyniad 1737).[4]
Un o ffynonellau'r Gorllewin am raglen niwclear Iran yw'r Sāzmān-e mojāhedin-e khalq-e irān, mudiad chwyldroadol sydd hefyd ar restr grwpiau terfysgol yr Unol Daleithiau, yr UE ac Iran ei hun.
Yn 2010 a 2011 lladdwyd 5 gwyddonydd niwclear y wlad, fwy na thebyg gan Mossad,[5] sef heddlu arbennig Israel. Ar y 15fed o Ionawr dadorchuddiodd Mahmoud Ahmadinejad rodiau niclear wedi'u creu ganddynt eu hunain yn Tehran. Yn ôl y llefarydd ar ran Llywodraeth Iran, roedd y wlad wedi eu gorfodi i wneud hynny gan nad oedd gwledydd y Gorllewin ddim yn eu cynorthwyo i buro bliwtoniwm ar gyfer creu trydan.