Enghraifft o: | tacteg filwrol |
---|
Ymosodiad dirybudd o safle guddiedig yw rhagod (Saesneg: ambush); gall hefyd olygu 'atalfa' neu 'rwystr'. Gall y cuddfan fod yn nodwedd naturiol e.e. coedwig, neu'n guddliw ar y person sy'n paratoi i ymosod.
Er enghraifft, yng Nghwnsyllt, yng ngantref Tegeingl (heddiw yn Sir y Fflint), gosododd Owain Gwynedd, Tywysog Cymru, ragod ar Harri II, brenin Lloegr.[1]
Yn aml, mae'r elfen o ymosodiad dirybudd, sydyn, yn un pwysig mewn tactegau milwrol, ac fe'i defnyddiwyd yn aml gan y Cymry yn yr oesoedd canol, fel rhan o'u tactegau 'taro a ffoi'.