Rhamant

Yn llenyddiaeth yr Oesoedd Canol, chwedl arwrol yw rhamant (o'r gair Hen Ffrangeg romanz sfallai.). Fel rheol mae rhamant yn chwedl hir (rhyddiaith yng Nghymru ond cerddi ar y cyfandir ac yn Lloegr) sy'n adrodd am hynt a helynt marchogion ym myd sifalri ac yn disgrifio eu campau a'u carwriaethau. Yr elfen serch sy'n rhoi i'r gair ei ystyr fwyaf cyffredin heddiw, sef 'stori serch'.

Yn llenyddiaeth Gymraeg yr Oesoedd Canol ceir Y Tair Rhamant sy'n rhan o gorff o ramantau am y brenin Arthur.


From Wikipedia, the free encyclopedia · View on Wikipedia

Developed by Nelliwinne