Enghraifft o: | cartrefu |
---|---|
Math | building part, preswylfa |
Rhan o | bloc o fflatiau |
Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia |
Mae'r rhandy neu, yn fwy cyffredin ar lafar, fflat yn aneddiad sy'n bodoli mewn adeiladau aml-deulu ac ystadau tai.[1] Mae'n rhan o dŷ neu adeilad helaeth (ar un llawr, fel rheol) wedi ei gynllunio neu gymhwyso'n breswylfa i deulu neu unigolyn ac sy'n uned annibynnol.[2] Mae'r gair "fflat" wedi bod mewn defnydd yn y Gymraeg ers yr 20g. Mae'r gair "rhandy" yn hŷn ac yn dyddio'n ôl i'r 13g lle ceir cyfeiriad iddo yng Nghyfreithiau Hywel Dda.[3]