Bala Lake Railway | |
---|---|
Alice yn Llanuwchllyn, 18 Gorffennaf 2004 | |
Ardal leol | Gwynedd |
Terminws | Llanuwchllyn |
Gweithgaredd masnachol | |
Maint gwreiddiol | 4 tr 8 1⁄2 modf (1,435 mm) |
Yr hyn a gadwyd | |
Hyd | 4.5 milltir (7.2 km) |
Maint 'gauge' | 2 tr (610 mm) |
Hanes (diwydiannol) | |
Caewyd | 1965 |
Hanes (Cadwraeth) | |
1972 | Ailagorwyd |
Pencadlys | Llanuwchllyn |
Rheilffordd led gul (gyda lled o 24 modfedd neu 610mm) yw Rheilffordd Llyn Tegid. Mae'n rheilffordd ysgafn a leolir ar lan Llyn Tegid, yng Ngwynedd - rhwng Llanuwchllyn a'r Bala sydd 4.5 milltir (7.2 cilomedr) i ffwrdd. Adeiladwyd y lein ar drywydd y lein Great Western rhwng Rhiwabon ac Abermaw ag agorwyd ym 1868 a chaewyd ym 1965. Adeiladwyd y rheilffordd wreiddiol gan y Bala & Dolgelley Railway Company, ac roedd yn gysylltiad rhwng Rheilffordd Corwen a'r Bala ac Rheilffordd y Cambrian. Daeth y lein yn rhan o Rheilffordd y Great Western ym 1877 ac yn rhan o'r Rheilffyrdd Brydeinig ym 1948.
Gwaredwyd y cledrau a'r trawstiau pren ym 1969, a chafodd peiriannydd lleol, George Barnes, y syniad o greu lein led gul ar lan Llyn Tegid. Trafododd y syniad efo Tom Jones, preswylydd o Lanuwchllyn, a chadeirydd pwyllgor cyllid Cyngor Sir Feirionnydd. Ffurfiwyd Cwmni Rheilffordd Llyn Tegid Cyf, y cwmni cyntaf i gael ei gofrestru yn yr iaith Gymraeg, ym 1971.[1]
Agorwyd y milltir a chwarter cyntaf o'r rheilffordd bresennol - o Lanuwchllyn - ar 13 Awst 1972. Dechreuodd gwasanaeth stêm rheolaidd, efo 'Maid Marian', ym 1975. Agorwyd gweddill y lein, hyd at Benybont, ym 1976. Bwriedir ymestyn y lein i dref Y Bala yn y pen draw.[1]
Terminws a phencadlys y rheilffordd yw Llanuwchllyn ac mae'r rheilffordd bresennol yn defnyddio adeiladau'r orsaf Great Western wreiddiol. Mae lluniaeth ar gael yng nghaffi'r orsaf. Cedwir y locomotifau yn Llanuwchllyn, ac yn aml, mae'n bosibl eu gweld yn y gweithdy, a gellir ymweld â'r signalbox hefyd. Mae maes parcio y tu ôl i'r orsaf.
Terminws arall y rheilffordd yw Y Bala (Penybont), sydd hanner milltir o dref Y Bala. Dim ond culfan fach sydd ar gael i barcio ceir gerllaw'r orsaf.
Mae’r rheilffordd wedi cyhoeddi cynllun i ymestyn y lein i ganol tref y Bala. Bydd eisiau caniatâdau ond dechreuwyd ar brynu a chlirio’r tir. Bwriedir defnyddio Pont Mwngwl (yn yr un modd â Phont Britannia ym Mhorthmadog hy ei rhannu gyda cherbydau) i groesi afon Dyfrdwy.