![]() | |
Math | llinell rheilffordd ![]() |
---|---|
Agoriad swyddogol | 1872 ![]() |
Daearyddiaeth | |
Rhan o'r canlynol | public transport in Tunis ![]() |
Gwlad | Tiwnisia ![]() |
Hyd | 19 cilometr ![]() |
Rheolir gan | Société des transports de Tunis ![]() |
Rheilffordd drydan ysgafn yn Nhiwnisia yw Rheilffordd y TGM neu Ligne Tunis-Goulette-Marsa. Mae'n cysylltu'r brifddinas, Tiwnis, â thref La Marsa yn y gogledd. Am y rhan fwyaf o'i chwrs mae'r rheilffordd yn rhedeg o fewn chwarter milltir i lan Gwlff Tiwnis. Ei hyd yw tua 30 km ac mae'r siwrnai o'r naill ben i'r llall yn cymryd 45 munud.
Adeiladawyd y TGM gan y Ffrancod ar ddiwedd y 19g a dechrau'r 20g. Erbyn heddiw mae'n ddolen hollbwysig yn rhwydwaith cludiant Tiwnis Fwyaf gyda threnau'n rhedeg yn rheolaidd ddydd a nos (ac eithrio oriau mân y bore yn y gaeaf). Mae'n rheilffordd brysur iawn sy'n cludo miloedd bob dydd. Yn yr oriau brys mae trenau'n rhedeg bob deuddeg munud.
Rhed y rheilffordd o'r orsaf TGM, wrth ymyl porthladd Tiwnis, i La Marsa yn y gogledd. Mae'n croesi Llyn Tiwnis ar forglawdd ac yna gamlas La Goulette i gyrraedd La Goulette ei hun, sy'n derminws fferi ac ymdrochfa poblogaidd. Rhwng La Goulette a La Marsa mae'n galw yn Carthage a rhan isaf Sidi Bou Saïd.