Mae hon yn rhestr anghyflawn o Lywodraethwyr Rhufeinig Prydain. Daeth Britannia yn dalaith Rufeinig yn fuan wedi i’r Rhufeiniad goncro de-ddwyrain yr ynys. Roedd Britannia yn dalaith gonswlaidd, hynny yw roedd yn rhaid i lywodraethwr y dalaith fod yn gonswl. Yn nes ymlaen, yr oedd yn bosibl i’r llywodraethwr fod o radd ecwestraidd.
Nid oes cofnod am bob llywodraethwr, yn enwedig am y rhai mwyaf diweddar. Mae mwy o wybodaeth ar gael am y llywodraethwyr cynnar, hyd at Gnaeus Julius Agricola, gan fod y rhain wedi bod yn gyfrifol am y brwydro i ymestyn ffiniau’r dalaith.