Comedi-ddrama teledu Americanaidd a ymddangosodd gynaf ar ABC ar 3 Hydref 2004 yn yr Unol Daleithiau ydy Desperate Housewives. Roedd gan y gyfres gyntaf un bennod arbennig, ond roedd gan yr ail a thrydedd gyfres ddwy bennod arbennig. Ers 30 Hydref 2011, mae 163 pennod o Desperate Housewives yn bodoli, sydd wedi cael eu darlledu dros gyfnod o wyth tymor. Hyd yn hyn, mae tymhorau un, dau, tri, pedwar, pump, chwech, a saith wedi cael eu rhyddhau ar DVD mewn Rhanbarthau 1, 2, 3, 4 a 5.
Mae Desperate Housewives yn dilyn bywydau pedair benyw — Susan (Teri Hatcher), Lynette (Felicity Huffman), Bree (Marcia Cross) a Gabrielle (Eva Longoria) — drwy lygaid Mary Alice (Brenda Strong), eu ffrind a chymydog marw.
Enwir llawer o'r penodau ar ôl telynegion gan gyfansoddwr Stephen Sondheim.