Yn ogystal a'r ciwb geometrig, sy'n siâp tri dimensiwn, ceir, o fewn algebra a rhifyddeg, yr hyn a elwir yn rhif ciwb, neu'n bŵer tri, sef rhif (n) a luosir gydag ef ei hun ddwy waith. O ddydd i ddydd, fe sonir am rif "wedi'i giwbio"; gellir cymharu hyn â "rhif wedi'i sgwario".
Gellir hefyd ei ddiffinio'n fras fel rhif wedi'i luosi gyda'i rif sgwâr:
Y ciwb yw'r unig hecsahedron rheolaidd sydd a hyd ei sylfaen, ei led a'i uchder yn hafal; cyfrifir cyfaint y ciwb drwy luosi'r tri (dimensiwn) hyn. Gellir delweddu'r tri dimensiwn yma i rifau ciwb, h.y. 6 wedi'i giwbio yw 6 x 6 x 6 = 219; dyma'r union ganlyniad a geir pan gyfrifir cyfaint ciwb gyda'i ochrau i gyd yn 6 uned, sef 219 uned sgwâr. A dyma'n union yw tarddiad yr enw 'rhif sgwâr'. Felly:
ac yn y blaen.
Y gwrthwyneb i hyn yw'r trydydd isradd. Hynny yw, y weithred croes o ganfod rhif y mae ei giwb yn n yw canfod trydydd isradd n. O wybod cyfaint ciwb, gellir defnyddio'r trydydd isradd i ganfod ochr y ciwb hwnnw.
Mae'r rhif ciwb a thrydydd isradd, ill dau, yn od-ffwythiannau:[1]
Y nodiant mathemategol am giwbio'r rhif yw'r uwch-nod 3, er enghraifft 23 = 8 neu (x + 1)3. Gan fod ciwbio yn od-ffwythiant, yna mae gan y gromlin 'bwynt cymesuredd' yn y tarddiad, ond nid oes ganddi echelin y cymesuredd.
Yn z3, ceir dwy ran: z yw'r "rhif sylfaen" a 3 yw'r "indecs".