Cylchred blynyddol o wyliau tymhorol yw Rhod y Flwyddyn. Dethlir hi gan nifer o wahanol grwpiau o baganiaid modern, ac mae Rhod y Flwyddyn yn nodi prif ddigwyddiadau haul y flwyddyn (yr heuldroeon a'r cyhydnosau) a'r pwyntiau canol rhyngddynt. Mae cynnwys dathliadau a themâu llên gwerin yn gyffredin gan baganiaid modern, weithiau heb ystyried ymarferion hanesyddol gwareiddiadau'r byd.[1] Datblygwyd Rhod y Flwyddyn gan baganiaid modern Prydain yng nghanol yr 20fed ganrif,[2] gan gyfuno'r pedwar digwyddiad haul ("dyddiau pentymor" neu "ddyddiau chwarter") a ddathlwyd gan yr Ewropeaid, â'r pedair gŵyl eraill ("dyddiau croes-chwarter") a ddathlwyd gan y Celtiaid Ynysig.[3]
Nid yw bob traddodiad ym Mhaganiaeth fodern yn cytuno â'r union ddyddiad o bob dathliad, gan ystyried gweddau'r lleuad a'r hemisffer. Mae rhai Wiciaid yn defnyddio'r term Saesneg sabbat (/ˈsæbət/), neu sabat, i gyfeirio at bob gŵyl, gyda phob un o'r sabatau yn adain yn y Rhod.[4]