Rhodri ap Gruffudd | |
---|---|
Ganwyd | 1230s ![]() Teyrnas Gwynedd ![]() |
Bu farw | 1315 ![]() |
Dinasyddiaeth | ![]() |
Galwedigaeth | pendefig ![]() |
Swydd | tywysog ![]() |
Tad | Gruffudd ap Llywelyn Fawr ![]() |
Mam | Senana ![]() |
Plant | Tomas ap Rhodri ![]() |
Un o bedwar mab Gruffudd ap Llywelyn a'i wraig Senana oedd Rhodri ap Gruffudd (m. tua 1315). Ei frodyr oedd Llywelyn ap Gruffudd, Dafydd ac Owain. Roedd ganddo ddwy chwaer, Gwladus ferch Senana a Margaret.
Priododd ddywaith. Ei wraig gyntaf oedd Beatrice, ferch Dafydd o Falpas. Mae enw ei ail wraig yn anhysbys. Trwy'r ail briodas cafodd fab, Thomas ap Rhodri (m. 1363), tad Owain ap Thomas (Owain Lawgoch) (m. 1378).