Yn y Plân geometraidd Ewclidaidd, siâp syml yw'r rhombws (ll. rhombi), sy'n betryal. Mae ganddo bedair ochr o'r un hyd, ac oherwydd hyn, gelwir ef weithiau'n bedrochr hafalochrog. Yn achlysurol, gelwir ef yn 'ddiamwnt', gan ei fod mor debyg i'r symbol o ddiamwnt octahedrol ar gardiau chwarae.
Mae pob rhombws yn baralelogram ac yn farcut. Pe bai gan rombws ongl sgwâr, yna byddai hefyd yn sgwâr.[1][2]