![]() | |
Math | pentref ![]() |
---|---|
Daearyddiaeth | |
Sir | Sir y Fflint ![]() |
Gwlad | ![]() |
Cyfesurynnau | 53.207°N 3.178°W ![]() |
Cod OS | SJ213684 ![]() |
Gwleidyddiaeth | |
AS/au Cymru | Hannah Blythyn (Llafur) |
AS/au y DU | Rob Roberts (Ceidwadwyr) |
![]() | |
Pentref bychan yng nghymuned Helygain, Sir y Fflint, Cymru, yw Rhosesmor[1][2] ( ynganiad ). Saif tair milltir i'r gogledd o'r Wyddgrug. Ceir ynddo swyddfa bost, eglwys, tafarn, parc, ysgol gynradd a neuadd pentref. Gorwedd y pentref yn agos i bentrefi Rhyd-y-mwyn, Llaneurgain ac Helygain. I'r gogledd-orllewin cyfyd llethrau Mynydd Helygain.
Caerfallwch oedd yr hen enw ar y pentref cyn iddo dyfu yn y 19g; mae'r enw yn cael ei ddefnyddio ar gyfer y plwyf newydd a greuwyd y 1870au.
Mae gan y pentref hanes hir o fwyngloddio plwm ac mae'n cynnwys sawl adeilad sydd dros 300 mlynedd oed, yn arbennig yn ardal Wern-y-Gaer o'r pentref. Ceir nifer o dwneli ac ogofâu - naturiol neu o waith dyn - dan y ddaear o gwmpas y pentref, sy'n dyst i'r hanes hir o gloddio yn yr ardal, efallai mor gynnar â chyfnod y Rhufeiniaid yng Nghymru.
I'r dwyrain o Rosesmor saif bryngaer Moel y Gaer rhan o Fryniau Clwyd, a godwyd yn Oes yr Haearn.
Cynrychiolir yr ardal hon yn Senedd Cymru gan Hannah Blythyn (Llafur) ac yn Senedd y DU (San Steffan) gan Rob Roberts (Ceidwadwyr).[3][4]