Rhostio

Rhost Sul: cig eidion rhost, tatws rhost, llysiau, pwdin Efrog, a grefi.

Coginio drwy gyfrwng gwres sych, yn enwedig cig a llysiau mewn ffwrn, yw rhostio.[1] Mae'r dechneg yn debyg iawn i bobi, ac i raddau mater o arfer iaith sy'n gwahaniaethu'r ddau. Dywed ein bod yn rhostio cig, ffowlyn, tatws, ac afalau, er enghraifft.[2]

Y brif wahaniaeth dechnegol rhwng rhostio a phobi yw bod strwythur solet gan fwyd sy'n cael ei rostio, er enghraifft cig a llysiau. Wrth bobi, mae cymysgeddau hylifol neu led-hylifol megis toes a chytew yn dibynnu ar dymheredd y popty i'w hymsolido. Gellir hefyd rhoi caen allanol o fraster neu hylif heb ddŵr ar fwyd sy'n rhostio mewn ffwrn, er enghraifft marinâd, olew, neu doddion cig eidion.[3] Yn ôl rhai, mae angen tymheredd uwch ar rostio (o leiaf tua 200 °C), ond nid yw pawb yn cytuno ar y gwahaniaeth honedig hwn.[4]

Y dull traddodiadol o rostio cig yw ar gigwain yn troi ger tân. Gwneir rhostio modern mewn ffwrn, neu ar dân agored ar y gridyll neu'r barbiciw.[3] Gellir hefyd ei wneud gyda marwydos, tywod neu gerrig poeth.[5]

Os defnyddid hylif megis isgell neu sudd wrth goginio cig mewn llestr caeedig, gelwir y broses yn frwysio neu'n bot-rostio.

  1.  rhostio. Geiriadur Prifysgol Cymru. Adalwyd ar 29 Mehefin 2015.
  2. S. Minwel Tibbott. Geirfa'r Gegin (Amgueddfa Werin Cymru, 1983), t. 112.
  3. 3.0 3.1 (Saesneg) "What is the difference between baking and roasting?". Science of Cooking. exploratorium. Adalwyd ar 29 Mehefin 2015.
  4. (Saesneg) What's the Difference Between Roasting and Baking?. The Kitchn. Adalwyd ar 29 Mehefin 2015.
  5. (Saesneg) roasting (cooking). Encyclopædia Britannica. Adalwyd ar 29 Mehefin 2015.

From Wikipedia, the free encyclopedia · View on Wikipedia

Developed by Nelliwinne