Rhyfel Gogledd Orllewin Pacistan

Milwyr Byddin Pacistan ar ôl "clirio pentref o wrthryfelwyr" ym Malakand.

Gwrthdaro arfog yw Rhyfel Gogledd Orllewin Pacistan rhwng Byddin Pacistan a gwrthryfelwyr Islamig sy'n cynnwys aelodau o lwythau lleol, Taliban Pacistan a'i gynghreiriaid ac ymladdwyr o'r tu allan i Bacistan ei hun. Dechreuodd yn Wasiristan yn gyda'r hwn a elwir yn 'Rhyfel Wasiristan' ac ers hynny mae wedi ymledu ar draws gogledd-orllewin Pacistan, yn bennaf yn nhalaith Khyber Pakhtunkhwa, gyda'r gwrthryfelwyr yn rheoli ardaloedd sylweddol sy'n cynnwys Dir a dyffryn Swat; gorwedd yr olaf llai na 100 milltir o'r brifddinas, Islamabad. Yn Islamabad ei hun mae dylanwad y Taliban i'w weld yn y ffaith fod sawl canolfan chwaraeon ac ysgol lle dysgir merched wedi cael ei gorfodi i gau ganddynt.[1]

Mae'r rhyfel yn cael ei bortreadu gan rai fel rhan o'r Rhyfel yn erbyn Terfysgaeth gyda honiadau fod elfennau o Al-Qaeda yn gweithio gyda'r Taliban a gwrpiau eraill. Erbyn Hydref 2008 roedd tua 6,000 o wrthryfelwyr a milwyr Pacistanaidd wedi cael eu lladd.[2] Mae'r nifer a laddwyd ar ochr y gwrthryfelwyr a'r colledion ymysg y bobl gyffredin yn anhysbys, ond roedd hyd at 500,000 o bobl wedi gorfod ffoi o'u cartrefi erbyn Mai 2009 yn ôl y Groes Goch.[3] Ar y 9fed o Fai 2009, wrth i chwech fataliwn ychwanegol baratoi i ymuno yn y rhyfel, cynhaliwyd cyfarfod arbennig o Gabinet Pacistan; cyhoeddodd y Prif Weinidog Yousaf Raza Gillani fod y rhyfel "yn frwydr dros oroesiad Pacistan a dyfodol ei phobl".[4]

  1. Hindustan Times Archifwyd 2013-06-29 yn archive.today, 07.05.2009.
  2. Times Online Archifwyd 2009-01-22 yn y Peiriant Wayback, 28.10.2008.
  3. "Aid agencies warn of escalating crisis in Pakistan" Earth Times Archifwyd 2016-03-05 yn y Peiriant Wayback, 07.05.2009.
  4. "Cabinet endorses military action in Swat" Archifwyd 2009-05-13 yn y Peiriant Wayback, DawnNews, 09.05.2009.

From Wikipedia, the free encyclopedia · View on Wikipedia

Developed by Nelliwinne