Rhyfel Algeria | ||||||||
---|---|---|---|---|---|---|---|---|
Rhan o gyfnod datrefedigaethu ar ôl yr Ail Ryfel Byd | ||||||||
o'r chwith i'r dde, rhes 1af: colofn o wrthryfelwyr Mwslemaidd yr ALN; patrôl gan M8 Greyhound o Fyddin Ffrainc; pieds-noirs Constantine yn arfogi eu hunain. 2il res: anerchiad Charles de Gaulle ar 4 Mehefin 1958; gwrthdystiad pieds-noirs o blaid de Gaulle yn Algiers ar 13 Mai 1958; cyn-filwyr Mwslemaidd harki ym 1958. 3edd res: Wythnos yr Atalgloddiau yn Ionawr 1960; pieds-noirs yr FAF yn taflu cerrig at Fyddin Ffrainc ar 9 Rhagfyr 1960; milwr Ffrengig yn defnyddio canfodydd metel wrth archwilio menywod Mwslimaidd am fomiau. 4edd res: terfysg yr FLN yn Bab el Oued, 10 Rhagfyr 1960; milwyr Ffrengig yn defnyddio gynnau nwy dagrau yn Algiers; cefnogwyr yr FLN yn wynebu awyr-filwyr Ffrengig yn ystod protestiadau 10 Rhagfyr 1960. | ||||||||
| ||||||||
Cydryfelwyr | ||||||||
FLN MNA |
Ffrainc | FAF (1960–61) Organisation de l'armée secrète (OAS) (1961–62) | ||||||
Arweinwyr | ||||||||
Mohamed Si Moussa Benahmed Saadi Yacef Mustapha Benboulaïd† Ferhat Abbas Houari Boumedienne Hocine Aït Ahmed Ahmed Ben Bella Krim Belkacem Larbi Ben M'Hidi† Rabah Bitat Mohamed Boudiaf Messali Hadj |
Paul Cherrière (1954–55) Henri Lorillot (1955–56) Raoul Salan (1956–58) Maurice Challe (1958–60) Jean Crepin (1960–61) Fernand Gambiez (1961) Guilain P. Denoeux (1961–62) |
Said Boualam Pierre Lagaillarde Raoul Salan Edmond Jouhaud Jean-Jacques Susini | ||||||
Nerth | ||||||||
15,000 ar ei anterth, 45,000 ar gyfer yr holl ryfel | 670,000 90,000 Harki |
3,000 (OAS) | ||||||
Anafusion a cholledion | ||||||||
153,000 yn marw, 160,000 wedi'u hanafu 1,500,000 yn marw yn ôl llywodraeth Algeria |
25,600 yn marw 65,000 wedi'u hanafu |
100 yn marw (OAS) 2,000 mewn carchar (OAS) | ||||||
Sifiliaid wedi'u lladd neu wedi'u hanafu: 800,000+ |
Rhyfel rhwng Ffrainc a mudiadau cenedlaetholgar Algeriaidd o 1 Tachwedd 1954 i 19 Mawrth 1962 oedd Rhyfel Algeria (Arabeg: ثورة جزائرية; Ffrangeg: Guerre d'Algérie), a arweiniodd at annibyniaeth Algeria oddi ar Ffrainc. Roedd yn rhyfel pwysig yng nghyfnod datrefedigaethu (decolonization war), ac yn wrthdaro cymhleth a nodir gan ryfela herwfilwrol, terfysgaeth, artaith, a gwrthchwyldroadaeth.
Ym Mawrth 1954 sefydlwyd y Ffrynt Rhyddid Cenedlaethol (FLN) gan naw Algeriad oedd yn byw'n alltud yn yr Aifft, gan gynnwys Ahmed Ben Bella. Ar 1 Tachwedd 1954 dechreuodd yr FLN rhyfel herwfilwrol ac ymgyrch derfysgol yn erbyn Ffrainc gyda'r nod o ennill annibyniaeth i Arabiaid Mwslimaidd Algeria. Anfonodd llywodraeth Ffrainc lluoedd Ffrengig i Algeria Ffrengig i frwydro'r FLN gan ddefnyddio strataegaeth wrthchwyldroadol a gwrthderfysgol, oedd yn cynnwys cyflafanau, artaith, a chyrchoedd ar bentrefi Mwslimaidd.
Ymunodd setlwyr Ewropeaidd Algeria, y pieds-noirs, â swyddogion Byddin Ffrainc i ddymchwel llywodraeth Ffrainc yn ystod argyfwng Mai 1958, a dychwelodd Charles de Gaulle, arweinydd Ffrainc Rydd yn ystod yr Ail Ryfel Byd, i arwain Ffrainc. Croesawyd de Gaulle gan y pieds-noirs, ond ym 1959 datganodd y bydd yn sicrháu hunan-benderfyniad ar gyfer holl boblogaeth Algeria.
Ymdrechodd y pieds-noirs i wrthryfela yn erbyn de Gaulle yn Wythnos yr Atalgloddiau ym 1960 a Putsch y Cadfridogion yn Ebrill 1961, ond arhosodd mwyafrif y fyddin y ffyddlon i de Gaulle yn y ddwy achos. Ym Mawrth 1962 cytunwyd ar gadoediad rhwng llywodraeth Ffrainc a chynrychiolwyr yr FLN yn Évian, Ffrainc. Pleidleisiodd yr Algeriaid dros annibyniaeth mewn refferendwm yng Ngorffennaf 1962. Yn sgîl hyn ymfudodd y mwyafrif o pieds-noirs i Ffrainc.