Enghraifft o: | rhyfel |
---|---|
Dyddiad | 1973 |
Rhan o | Gwrthdaro Arabaidd-Israelaidd |
Dechreuwyd | 6 Hydref 1973 |
Daeth i ben | 25 Hydref 1973 |
Rhagflaenwyd gan | y Rhyfel Athreuliol |
Olynwyd gan | 1982 Lebanon War |
Lleoliad | Camlas Suez, Ucheldiroedd Golan, Sinai, Y Dwyrain Canol |
Yn cynnwys | Egyptian 25th Brigade ambush, Battle of the Chinese Farm, Operation Abirey-Halev, Battles of Fort Budapest, Battle of Fort Lahtzanit, Third Battle of Mount Hermon, First Battle of Mount Hermon |
Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia |
Ymladdwyd Rhyfel Yom Kippur (Hebraeg: הכיפורים, Milkhemet Yom HaKipurim), hefyd Rhyfel Mis Hydref (Arabeg: حرب أكتوبر, ħarb October) rhwng 6 Hydref a 26 Hydref 1973, rhwng Israel a chynghrair o wladwriaethau Arabaidd, yn bennaf yr Aifft, Syria ac Irac.
Dechreuodd y rhyfel pan ymosododd yr Aifft yn Sinai a Syria ar Ucheldiroedd Golan ar Yom Kippur, un o ddyddiau gŵyl pwysicaf Iddewiaeth. Roedd y tiriogaethau hyn wedi bod ym meddiant Israel ers y Rhyfel Chwe Diwrnod yn 1967.
Nid oedd Israel yn barod am yr ymosodiad, ac yn ystod y 48 awr gyntaf, meddiannwyd tiriogaethau sylweddol gan y byddinoedd Arabaidd, gyda'r Syriaid yn meddiannu Ucheldiroedd Golan a'r Aifft yn meddiannu rhan helaeth o Sinai. O'r cyfnod yma ymlaen, dechreuodd Israel eu gwthio yn ôl ac erbyn yr ail wythnos, roedd y Syriaid wedi eu gyrru o Ucheldiroedd Golan. Yn Sinai, croesodd byddin Israelaidd Gamlas Suez. Daeth y rhyfel i ben pan drefnodd y Cenhedloedd Unedig gadoediad.
Esgorodd buddugoliaeth Israel yn y Rhyfel ar Gynllun Alon - cynllun brys a ddiwygiwyd sawl gwaith wedyn ar beth i wneud gyda'r tiroedd newydd a'r boblogaeth Arabaidd a feddiannwyd gan Israel. Mae'r Cynllun wedi ei beirniadu sawl gwaith ers hynny, er bod sawl elfen ohoni wedi dod yn sail ar gyfer polisi ad hoc Israel at diroedd y Palesteiniaid.