Rhyfel y Falklands

Rhyfel y Falklands
Map o Gefnfor yr Iwerydd, gan ddangos y milltiroedd o'r Malvinas i feysydd awyr perthnasol.
Mathrhyfel Edit this on Wikidata
Nifer a laddwyd891 Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
Rhan o'r canlynolAnghydfod sofraniaeth Ynysoedd y Malvinas Edit this on Wikidata
LleoliadYnysoedd y Malvinas, De Georgia ac Ynysoedd Sandwich y De Edit this on Wikidata
GwladBaner Cymru Cymru
Cyfesurynnau51.75°S 59°W Edit this on Wikidata
Map
Cyfnod1982 Edit this on Wikidata

Ymladdwyd Rhyfel y Falklands (a adnabyddir hefyd fel Rhyfel y Malvinas) yn 1982 rhwng y Deyrnas Unedig a'r Ariannin. Rhyfel dros clwstwr bychan o ynysoedd a elwir yn Sbaeneg yn Islas Malvinas, 'Ynysoedd y Malvinas' yn Ne Cefnfor yr Iwerydd ydoedd. Saif Ynysoedd y Malvinas tua 7,896 milltir (12 708 km) o Lundain a 435 milltir (700 km) o borthladd Rio Grande, yr Ariannin.

Maent yn cynnwys dwy brif ynys a 776 o rai llai. Mae hanes cymhleth wedi bod i'r ynysoedd ers iddynt gael eu 'darganfod', gyda Ffrainc, Sbaen a'r DU yn hawlio perchnogaeth. Pan gafodd yr Ariannin ei hannibyniaeth yn 1816 gwnaeth hithau'r un peth. Cymerodd Prydain berchnogaeth o'r ynysoedd trwy rym yn 1833, ond mae'r Ariannin wedi hawlio perchnogaeth, yn barhaus, ers hynny.

Pennawd enwog The Sun ar achlysur suddo'r llong ARA General Belgrano.

Mae poblogaeth o ryw ddwy fil yn byw ar yr ynys.

Ers ei hannibyniaeth hawliai'r Ariannin sofraniaeth ar Ynysoedd y Falklands, ond cafodd yr ynysoedd eu hawlio trwy rym gan Goron Prydain yn gynnar yn 1833 a'u troi'n wladfa Brydeinig. Ar 2 Ebrill, 1982, goresgynnwyd yr ynysoedd gan lywodraeth filwrol asgell dde'r Ariannin. Methiant fu'r ymdrechion gan y Cenhedloedd Unedig a'r Unol Daleithiau i ddatrys y sefyllfa'n heddychlon ac anfonwyd llynges gyda milwyr ac awyrennau gan lywodraeth Margaret Thatcher i ail-gipio'r ynysoedd; "Tasglu'r Falklands" fel y'i gelwid. Ar 25 Ebrill cipiwyd ynysoedd De Georgia yn ôl ac erbyn 14 Mehefin roedd y Malvinas eu hunain yn ôl ym meddiant y Deyrnas Unedig. Collodd 257 Prydeiniwr eu bywydau, 649 o luoedd arfog yr Ariannin, a thri o drigolion yr ynys, gan gynnwys suddo'r llong Sir Galahad gan awyrennau Archentaidd a lladd nifer o Gardiau Cymreig, a suddo'r llong ryfel y General Belgrano gan long danfor Brydeinig gyda cholledion mawr o gonsgriptiaid ifainc.

Roedd Rhyfel y Falklands yn unigryw am fod siaradwyr Cymraeg wedi ymladd yn erbyn ei gilydd; Cymry Cymraeg o Gymru yn erbyn Archentwyr Cymreig y Wladfa. Ricardo Andres Austin oedd yr unig filwr Archentaidd o dras Gymreig i gael ei ladd yn y rhyfel, a hynny ym Mrwydr Goose Green.[1]

  1.  Craig Duggan (3 Ebrill 2012). 'Mae'r Malvinas yn perthyn i ni'. BBC. Adalwyd ar 8 Ebrill 2012.

From Wikipedia, the free encyclopedia · View on Wikipedia

Developed by Nelliwinne