Enghraifft o: | rhyfel |
---|---|
Dechreuwyd | 2 Awst 1990 |
Daeth i ben | 28 Chwefror 1991 |
Lleoliad | Coweit, Sawdi Arabia, Irac, Israel, Arabia |
Yn cynnwys | Operation Desert Shield, Operation Desert Storm |
Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia |
Rhyfel a ymladdwyd rhwng 1990-1991 oedd Rhyfel y Gwlff. Enwau eraill arno yw "Rhyfel Irac 1", "Rhyfel Gwlff Persia" neu "Operation Desert Storm"[1][2] a chafodd ei ymladd gan 34 o genhedloedd yn erbyn Irac rhwng 2 Awst 1990 a 28 Chwefror 1991. Unwyd y gwledydd hyn gan y Cenhedloedd Unedig o dan arweiniad Unol Daleithiau America. Digwyddodd y rhyfel fel ymateb i ymosodiada Irac ar Kuwait ar 2 Awst 1990. Ar unwaith digwyddodd dau beth: symudodd yr Unol daleithiau ei llynges arfog i'r ardal ac yn ail ymatebodd nifer o genhedloedd gyda sancsiynnau economaidd yn erbyn Irac.