Enghraifft o: | rhyfel |
---|---|
Dyddiad | 15 g |
Dechreuwyd | 22 Mai 1455 |
Daeth i ben | 16 Mehefin 1487 |
Lleoliad | Teyrnas Lloegr |
Gwladwriaeth | Teyrnas Lloegr |
Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia |
Roedd Rhyfeloedd y Rhosynnau (Rhyfel y Rhos, yn ôl yr hanesydd John Davies[1]) yn gyfres o ryfeloedd a ymladdwyd o dros 30 mlynedd (1455 i 1485) rhwng cefnogwyr Teulu'r Lancastriaid a Theulu'r Iorciaid. Fe'i gelwir yn "Rhyfeloedd y Rhosynnau" am fod y rhosyn coch yn cynrychioli Lancaster a'r rhosyn gwyn yn cynrychioli Iorc. Y wobr fawr yn y rhyfeloedd hyn oedd Coron Lloegr. Er eu bod yn rhyfel cartref Seisnig ar un ystyr roedd yn anorfod fod Cymru'n cael ei thynnu i mewn iddynt. Er y gelwir y cyfnod hwn yn "Rhyfeloedd y Rhosynnau", ychydig o ymladd a fu mewn gwirionedd - tua 13 wythnos i gyd gyda chyfanswm o 12 brwydr.
Yn ôl John Davies, y pwysicaf o'r brwydrau a ymladdwyd oedd Brwydr Wakefield (1460) lle lladdwyd dug York, Brwydr Mortimer's Cross (1461) (brwydr rhwng dwy fyddin o Gymry, mewn gwirionedd) gan i'w fab ddyrchafu ei hun yn Edward IV, Brwydr Banbury (1469) a arweiniodd at ailorseddu Harri VI a Brwydr Tewkesbury (1471) oedd yn allweddol i ailorseddu Edward IV, ac wrth gwrs Brwydr Bosworth.
Uchafbwynt y rhyfeloedd hyn oedd buddugoliaeth Harri Tudur (a ddaeth yn Harri VII) ym Mrwydr Bosworth yn 1485; diolch i'r cymorth a gafodd gan y Cymry a heidiai i'w gefnogi pan laniodd yn Sir Benfro, trechodd Harri y brenin Rhisiart III a chipiodd goron Lloegr gan agor cyfnod y Tuduriaid.